S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bang yn dod i’r brig yng Ngŵyl Deledu Caeredin

18 Tachwedd, 2020

Mae'r gyfres ddrama Bang wedi ennill gwobr yng ngwobrau Gŵyl Teledu Caeredin eleni. Daeth y gyfres drosedd, a gynhyrchwyd gan Joio ar gyfer S4C, i'r brig yn y seremoni wobrwyo Ddydd Mercher 18 Tachwedd ochr yn ochr â chyfresi megis Chernobyl a Succession.

Cyflwynwyd y Wobr Werdd i gast a chriw'r gyfres am eu hymdrechion i sicrhau fod Bang yn gynhyrchiad cynaliadwy. Dyma'r tro cyntaf i'r wobr gael ei chyflwyno ac mae datblygiad y categori newydd hwn yn arwydd o'r pwyslais mae'r diwydiant bellach yn rhoi ar gynhyrchwyr i leihau eu hôl troed carbon wrth greu rhaglenni teledu.

Sicrhaodd cynhyrchwyr y gyfres fod systemau yn eu lle i ail-gylchu gwisgoedd a setiau, i leihau'r angen i deithio ac i gompostio gwastraff bwyd. Wrth leoli'r gyfres mewn hen ysgol uwchradd yng nghanol tref Port Talbot, roedd y tîm yn gallu sefydlu swyddfa a saethu'r mwyafrif o'r gyfres mewn un lleoliad ac annog gweithwyr i deithio i'r gwaith ar y trên. Bydd y cwmni yn nawr yn rhannu eu harferion da gyda'r diwydiant yng Nghymru.

"Roeddwn yn benderfynol o gymryd camau i leihau ein hôl-troed carbon wrth i ni fynd ati i saethu'r ail gyfres o Bang", meddai Roger Williams, Uwch Gynhyrchydd y gyfres a Chyfarwyddwr Cwmni Joio.

"Gan ystyried yr oblygiadau amgylcheddol o'r cychwyn cyntaf roeddwn yn gallu trefnu ein gwaith mewn ffordd effeithlon er mwyn gweithredu'n fwy gwyrdd. Trwy arwain ar y neges hon a sicrhau bod systemau yn eu lle, roedd y cynsail wedi ei osod i bawb oedd yn gweithio gyda ni i chwarae eu rhan yn y gwaith o sicrhau bod Bang mor wyrdd â phosib."

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Rydym yn arbennig o falch fod Bang wedi ennill y wobr yma. Mae'r Wobr Werdd yn wobr arwyddocaol wrth i ni anelu tuag at weithio'n fwy cynaliadwy gyda chynhyrchwyr yn y dyfodol. Mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein rhan a lleihau ein hôl troed carbon, ac mae'r wobr yma yn dathlu ymdrechion y diwydiant. Llongyfarchiadau mawr i Roger a chwmni cynhyrchu Joio am y gwaith sydd wedi arwain at ennill y wobr fawreddog hon."

Cynhyrchwyd Bang ar gyfer S4C mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae'r gyfres wedi cael ei dangos mewn gwledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada a Seland Newydd.Enillodd y gyfres gyntaf y wobr am y gyfres ddrama orau yng ngwobrau Bafta Cymru a gwobrau'r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.

Mae gwobrau Gŵyl Teledu Caeredin yn wobrau mawr eu bri ac yn dathlu'r gorau o'r diwydiant teledu yn y wlad hon a thramor.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?