S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Cartŵn newydd yn canolbwyntio ar brofiadau plant awtistig

20 Ebrill 2021

Bydd cyfres gartŵn newydd, sydd wedi'i ysbrydoli gan brofiadau plant ar y sbectrwm awtistig yn dechrau ar Cyw ar 28 Ebrill.

Mae'r gyfres Pablo yn adrodd hanes bachgen bach awtistig sy'n goresgyn sefyllfaoedd sy'n ei herio gyda chymorth ei ffrindiau dychmygol.

Wrth i Pablo dynnu lluniau o anifeiliaid â'i greons hud, gyda'i ddychymyg byw, daw'r ffrindiau hyn yn fyw i'w helpu.

Mae pob anifail yn cynrychioli nodwedd arbennig o awtistiaeth – o lama sy'n ailadrodd, i ddeinosor sydd ddim yn hoff o sgwrsio.

Mae'r cymeriadau hyn i gyd yn cael eu lleisio gan actorion ifanc sydd ar y sbectrwm awtistiaeth eu hunain.

Mae'r prif gymeriad, Pablo, yn cael ei leisio gan Owain Gwynn, sy'n 12 mlwydd oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor.

Mae'r profiad o leisio cartŵn yn gwbl newydd iddo, ac mae ei fam, Nia Gwynn yn cydnabod pa mor werthfawr yw'r profiad iddo:

"Tydi Owain erioed wedi gwneud rhywbeth tebyg i hyn o'r blaen.

"Mae o wedi darllen pethau allan yn y capel ac ati, ond tydi o ddim yn berson cyhoeddus. Mae o'n gallu bod yn swil yn gymdeithasol, a dyna be ydi lot o'i awtistiaeth o; problemau cymdeithasol.

"Mae o'n cael trafferth gwneud ffrindiau ac ati. Dydi o ddim yn ei ffeindio'n hawdd i ymdopi mewn criwiau, ac mae o'n cael anawsterau pan maen nhw'n chwarae gemau ac ati – ddim yn dilyn y rheolau a tynnu'n groes heb iddo bron sylweddoli.

"Mae o wedi mwynhau'r profiad o leisio, a'r teimlad fod ganddo swydd, neu ddyletswydd bron.

"Mae o wedi mwynhau'r profiad o gael mynd i stiwdio recordio a chael bod yn rhan o gynhyrchiad sy'n mynd allan ar deledu.

"Mae cynhyrchu rhaglen o'r fath yn gam dewr ar ran y cwmni cynhyrchu, achos dydi gweithio efo plant ddim yn hawdd beth bynnag, ond yn sicr efo rhai sydd ar y sbectrwm.

"Mae'n cynnig profiad hollol amhrisiadwy i'r plant, a hynny mewn amgylchedd saff ofnadwy, lle maen nhw'n ymwybodol iawn sut i'w trin nhw.

"Mae hynny wedi bod yn gysur i ni, i wybod bod Owain ddim yn cael ei roi mewn sefyllfa lle dydi o ddim yn medru ymdopi neu'n teimlo'n anghyffyrddus."

Yn debyg i brofiadau llawer o rieni i blant awtistig, doedd y daith i gael diagnosis i Owain yn y lle cyntaf ddim yn un hawdd:

"Am yn hir doedden ni fel rhieni ddim yn gwybod beth oedd o. Doeddet ti ddim yn siŵr pan oedd o'n tyfu i fyny os mai personoliaeth, ynta heb ddatblygu, 'ta anaeddfedrwydd.

"Na'th o gymryd blynyddoedd i ni gael diagnosis iddo. Roedden ni wedi codi'r peth o pan oedd o tua 6, 7 oed, ac ar ei ddiwrnod olaf yn yr ysgol gynradd gafodd o'r diagnosis.

"Roedd yn braf i ni ein bod ni'n gwybod wedyn beth oedd o; roedd yn helpu ni i ymdopi, yn ei helpu o i ymdopi, ac yn ei helpu o i falle ddeall 'chydig mwy.

"Mae'r Ysgol Uwchradd wedi bod yn wych. Mae ganddyn nhw bob math o bethau y neu lle i helpu Owain; trefn y diwrnod, ac roedden nhw'n trio osgoi sefyllfaoedd lle fase fo'n ymateb oedd yn anoddach i bawb, ond wrth gwrs, mae'r cyfnod clo' 'ma wedi dod â hynny i stop."

Gobaith y gyfres yw hyrwyddo dealltwriaeth ac empathi am gyflwr awtistiaeth, a hynny mewn ffordd bositif; rhywbeth sy'n hollbwysig yn ôl Nia:

"Mae'n hanfodol bwysig bod rhywbeth fel hyn ar Cyw, achos mae o'n dod â'r sbectrwm, a realiti'r sbectrwm i fewn i fywyd pob dydd pobl.

"Mae'n gwneud i bobl sylweddoli mae gan bobl sydd ag awtistiaeth gymaint i'w gynnig.

"A falle nad ydi'n amlwg bob tro bod ganddyn nhw awtistiaeth, achos bod mathau gwahanol o awtistiaeth.

"Mae Owain yn gwyro mwy tuag at Aspergers, sef fwy o arwydd yr ochr gymdeithasol, a'r ochr efo trefn pethau. Felly tydi ddim yn amlwg falle i bawb bod ganddo'r cyflwr.

"Dim ond sefyllfaoedd sy'n ysgogi awtistiaeth yn aml, ac mae'r cartŵn yma'n dangos y mathau o sefyllfaoedd sy'n gallu ysgogi'r cyflwr i amlygu'i hun.

"Os ydi pobl yn fwy ymwybodol o'r peth, a hefyd bod o'n cael ei normaleiddio, fel bod dim cymaint o stigma yn ei gylch, mae hynny'n grêt, yn enwedig gan mai plant ifanc sy'n ei wylio.

"Mae o jest yn mynd i ddod yn rywbeth sy'n rhan naturiol o fywyd bob dydd."

Pablo

Dydd Mercher, 28 Ebrill 7.30

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?