S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​"Dyna yw democratiaeth ar ddiwedd y dydd...," - Etholwyr newydd Cymru yn rhoi eu llais.

22 Ebrill 2021

Gyda'r oedran pleidleisio wedi gostwng i 16 oed yn Etholiad y Senedd, byddwn yn clywed barn rhai o etholwyr newydd Cymru mewn arlwy arbennig yr wythnos hon ar S4C.

Mewn rhaglen arbennig Etholiad '21: Taswn i'n Brif Weinidog Cymru, i'w darlledu nos Lun y 26ain o Ebrill am 9.30pm ar S4C, bydd pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar wleidyddiaeth Cymru.

O Abergwaun i Fethesda a Phontypool, mae criwiau o bobl ifanc amrywiol yn mynegi barn am y materion sy'n bwysig iddyn nhw yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

"Dwi'n teimlo yn falch iawn i allu pleidleisio, a'n hapus bo llais fi'n gallu neud gwahaniaeth, achos dyna ydi democratiaeth yn diwedd de?" meddai Dafydd Hedd, sy'n 17 oed o Fethesda wrth sgwrsio gyda'i ffrind.

"Dwi di gweld faint o'n ffrinide i sy' dod mor wleidyddol yn y flwyddyn ddiwetha, a fama yw'r cyfle iddyn nhw nawr, i ddefnyddio eu pleidlais", ychwanega ei ffrind Owain Sion Jones.

Cyfiawnder Cymdeithasol, yr amgylchedd, amrywiaeth, amaeth a iechyd meddwl yw rhai o'r materion mawr sy'n cael sylw, ond mae annibyniaeth a diddymu'r Senedd hefyd yn bynciau llosg i'r criw 16 ac 17 oed.

"Pobl ifanc - ni yw dyfodol Cymru. A felly be sy'n bwysig i ni nawr, fydd angen newid i gal y cydraddoldeb ni eisiau. Ni eisiau Cymru sy'n deg, sy'n inclusive" esbonia Mali Griffiths, o Gaerdydd.

"Ma'n teimlo fel bo neb yn gwrando arno ni. Ma gwleidyddion yn dweud amgylchedd, amgylchedd, amgylchedd, ….ond be ma nhw wedi gwneud?

"Ydy e'n cael ei flaenoriaethu? Ma hynna'n reswm pam ni angen pleidleisio," meddai Georgia Tomlin, ym Mhontypool.

Cynhyrchwyd cynnwys yr etholiad gan ITV Cymru ar gyfer Hansh, a'i ariannu gyda chefnogaeth Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc, a ariennir gan lywodraeth y DU a'i reoli gan y BFI (British Ffilm Institute).

Mae'r gronfa'n cefnogi creu cynnwys unigryw i blant a phobl ifanc, sy'n difyrru, addysgu ac adlewyrchu profiadau a bywydau pobl ifanc heddiw ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd 9 fideo unigol o gynnwys Hansh i'w gweld ar S4C Clic dros yr wythnos nesaf yn ogystal a chynnwys ychwanegol ar blatfformau cymdeithasol fel rhan o ymgyrch etholiadol Hansh Dim Sbin.

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Ar-lein S4C: "Mae gallu rhoi platfform i bobl ifanc godi llais a thrafod gwleidyddiaeth yn sicr yn flaenoriaeth i S4C.

"Mae gwleidyddiaeth yn rhywbeth i bawb ac mae ein cyfresi o fideos ar Hansh yn ogystal â'r rhaglen ar y brif sgrin yn gyfle i glywed gan gyfranwyr ifanc led led Cymru.

"Gyda phobl ifanc 16 oed yn gallu pleidleisio eleni am y tro cyntaf, mae'n sicr yn dro bwynt pwysig ac mae'n allweddol ein bod yn ymateb i hynny gan sicrhau fod pobl ifanc yn rhan ganolog o'r etholiad."

"Mae Etholiad y Senedd eleni yn foment hanesyddol i bobl ifanc Cymru a ma'n holl bwysig bod ganddyn nhw gynnwys difyr, pwrpasol yn Gymraeg, yn ogystal a'r wybodaeth angenrheidiol iddyn nhw allu ymgysylltu a chymryd rhan yn yr etholiad," meddai Branwen Thomas, golygydd cynnwys Cymraeg ITV Cymru Wales.

Etholiad '21: Taswn i'n Brif Weinidog Cymru…

Nos Lun 26 Ebrill, 9.30

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?