S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Digon yw Digon - S4C Chwaraeon yn ymuno â Boicot Cyfryngau Cymdeithasol

30 Ebrill 2021

Y penwythnos hwn bydd S4C yn rhan o ymgyrch cyfryngau cymdeithasol y byd chwaraeon, yn yr ymgais ar y cyd i fynd i'r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a cham-drin ar-lein.

Ni fyddwn felly yn defnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C Chwaraeon, Sgorio ac Y Clwb Rygbi rhwng 15.00 dydd Gwener 30 Ebrill a 23.59 dydd Llun 3 Mai.

Bydd hyn yn effeithio ar gêm fyw Sgorio, er bydd gwasanaeth S4C Clic yn dangos y cynnwys fel arfer.

Gyda'n gilydd, gobeithiwn bydd hyn yn gam tuag at atal cam-drin ar-lein.

Digon yw digon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?