S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio Emyn i Gymru 2021

1 Gorffennaf 2021

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd cyfres eiconig Dechrau Canu Dechrau Canmol yn 60 oed mae S4C am holi'r gwylwyr i bleidleisio am eu hoff Emyn.

Bydd y cyflwynydd Huw Edwards yn dathlu'r garreg filltir fawr mewn rhaglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn yr Hydref pan fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyfeilio i'r emynau, a Huw yn cyhoeddi canlyniad y pôl piniwn trwy ddatgelu'r 10 Uchaf o Hoff Emynau Cymru .

Mae panel o arbenigwyr eisoes wedi llunio rhestr hir o 20 emyn poblogaidd, ac mae gofyn i'r gwylwyr nawr i bleidleisio am eu hoff emyn.

Yn rhan o'r panel roedd Dr Rhidian Griffiths, Huw Tregelles Williams, Delyth Morgans Phillips, Rhiannon Lewis, Trystan Lewis, Parchedig Rob Nicholls, Rhodri Darcy, Parchedig John Gwilym Jones, Catrin Angharad Jones, Mererid Hopwood, John S Davies a Karen Owen.

Mae modd pleidleisio ar wefan s4c.cymru/dechraucanu ac mae'r dyddiad cau am hanner nos ar 30 Awst 2021.

Os nad ydych yn gallu pleidleisio ar-lein, yna cysylltwch â chwmni Rondo – 029 2022 3456.

Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn un o gyfresi mwyaf hirhoedlog S4C a ddarlledwyd gyntaf gan y BBC yn 1961.

Llwyddodd y gyfres i ysbrydoli cyfresi eraill yn Saesneg megis Songs of Praise a ddarlledwyd yn hwyrach yr un flwyddyn.

Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol yn parhau i fod yn un o raglenni mwyaf poblogaidd S4C.

Meddai Huw Edwards, Cyflwynydd Dechrau Canu Dechrau Canmol:

"Mae gen i farn bendant iawn ar yr emyn gorau! Tybed a fydd pobl Cymru yn cytuno?

"Dyma gyfle arbennig i ddathlu elfen bwysig o'n diwylliant, a gwneud hynny gyda chymorth miloedd o wylwyr S4C.

"Edrychaf ymlaen at ddatgelu'r canlyniad a llywio'r dathlu yn Neuadd Dewi Sant yn yr hydref."

Mae'r rhestr hir o ugain Emyn yn cynnwys:

  • Arwelfa - Arglwydd gad im dawel orffwys
  • Blaenwern - Tyred Iesu i'r anialwch
  • Bro Aber - O tyred i'n gwaredu, Iesu Da
  • Bryn Myrddin - Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb
  • Builth - Rhagluniaeth fawr y nef
  • Clawdd Madog - Os gwelir fi bechadur
  • Coedmor - Pan oedd Iesu dan yr hoelion
  • Cwm Rhondda - Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
  • Dim ond Iesu - O fy Iesu bendigedig
  • Ellers - Pan fwyf yn teimlo'n unig lawer awr
  • Godre'r Coed - Tydi sy'n deilwng oll o'm cân
  • Gwahoddiad - Mi glywaf dyner lais
  • In Memoriam - Arglwydd Iesu arwain f'enaid
  • Pantyfedwen - Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist fab Duw
  • Penmachno - Ar fôr tymhestlog teithio rwyf
  • Pennant - Dyma gariad fel y moroedd
  • Rhys - Rho im yr hedd
  • Sirioldeb - Un fendith dyro im
  • Ty Ddewi - Mi dafla maich oddi ar fy ngwar
  • Tydi a roddaist - Tydi a roddaist liw i'r wawr
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?