S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prifysgol Bangor yn noddi dramâu'r Hydref ar S4C

14 Hydref 2021

Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Prifysgol Bangor yn noddi rhai o gyfresi drama mwyaf poblogaidd y sianel yr Hydref hwn.

Bydd y Brifysgol yn noddi tair drama sef cyfres ddrama dywyll Craith, yn ogystal â dwy o operâu sebon poblogaidd y sianel sef Rownd a Rownd a Pobol y Cwm.

Mae Craith yn un o gyfresi mwyaf yr Hydref ar S4C a bydd y drydedd cyfres o'r ddrama drosedd yn siŵr o gadw gwylwyr ar flaen eu seddi.

Gydag enwau mawr yn y cast fel Sian Reese Williams a Sion Alun Davies mae'r gyfres eto wedi ei lleoli yng nghanol mynyddoedd a llechi ardal Eryri.

Mae Rownd a Rownd hefyd yn un o operâu sebon eiconig gogledd Cymru sy'n parhau i ddal ei thir fel un o gyfresi mwyaf poblogaidd y sianel yn ogystal â sebon mwyaf hirhoedlog S4C sef Pobol y Cwm.

Meddai Alex Hardie, Pennaeth Brand Prifysgol Bangor:

"Rydyn ni wrth ein boddau i gefnogi drama o safon ar S4C. Mae Craith, Pobol y Cwm a Rownd a Rownd yn llwyddo i adrodd straeon ar deledu yn gelfydd tu hwnt ac i safon byd-eang.

"Gyda balchder mawr rydym yn cefnogi'r celfyddydau creadigol trwy ddod â rhaglenni eithriadol, a grëwyd yng Nghymru, i'r sgrin fach."

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:

"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i Brifysgol Bangor am noddi cyfresi drama'r Hydref ar S4C.

"Rydym wrth ein bodd fod ein dramâu yn taro deuddeg gyda'n gwylwyr ac yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd eang, ac yn falch iawn fod y Brifysgol yn dewis noddi ein harlwy."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?