S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Lansio Cân i Gymru 2022: cyfle i gerddorion ymgeisio am wobr o £5,000

4 Tachwedd 2021

Mae S4C yn galw ar gerddorion a chyfansoddwyr Cymru i gynnig eu caneuon wrth i gystadleuaeth Cân i Gymru 2022 agor yn swyddogol heddiw, ddydd Iau 4 Tachwedd. Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn cipio tlws Cân i Gymru a gwobr o £5,000, gyda'r ail a'r drydedd hefyd yn derbyn gwobrau o £2,000 a £1,000.

Y gân 'Bach o Hwne' gan Morgan Elwy Williams, yn wreiddiol o Dan-y-Fron ger Llansannan, ddaeth i'r brig yn gynharach eleni. Gyda'r gystadleuaeth eiconig yn ei hôl yn 2022, tybed pwy fydd y nesaf i hawlio'i lle yn oriel anfarwolion Cân i Gymru?

Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, yn ffyddiog o ddod o hyd i stôr o gerddoriaeth Gymraeg newydd ledled Cymru, a thu hwnt. "Rhan o apêl Cân i Gymru ydy'r ffaith ein bod ni'n cael clywed cerddoriaeth newydd gan amryw o gyfansoddwyr – wynebau cyfarwydd a rhai newydd. Faswn i'n annog ceisiadau o bob genre cerddorol er mwyn cynrychioli'r cyfoeth sydd 'na yng Nghymru heddiw."

Bydd wyth cân yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr y diwydiant yn y pen draw i gystadlu yn Cân i Gymru 2022.

A bydd yr wyth cân yn cystadlu'n fyw ar S4C ar nos Wener 4 Mawrth 2022 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris wrth y llyw. Ond y gwylwyr adref bydd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw'u pleidlais dros y ffôn.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant a Cherddoriaeth S4C: "Ar ôl cyfnod anodd i'r celfyddydau a cherddoriaeth fyw, dyma gyfle i ni ddathlu a thynnu sylw at y dalent gerddorol ry'n ni'n ffodus o'i chael yma yng Nghymru. Mae'r cyffro a'r teimlad sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth yn un unigryw iawn. Ewch amdani."

Dyddiad cau cystadleuaeth Cân i Gymru 2022 yw 2 Ionawr. Os ydych chi am gystadlu mae'r manylion i gyd a'r ffurflen gais ar gael ar wefan S4C: www.s4c.cymru/canigymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?