S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch y Cymry yng Ngemau’r Gymanwlad ar S4C

1 Gorffennaf 2022

Bydd tîm o 199 o athletwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham eleni a bydd modd dilyn eu holl lwyddiannau dros yr wythnosau nesaf ar S4C.

Am y tro cyntaf erioed, bydd S4C yn darlledu o Gemau'r Gymanwlad gyda rhaglenni uchafbwyntiau bob nos, Birmingham 2022: Cymry yn y Gemau.

Bydd y rhaglenni yn cychwyn ar Nos Iau 28 Gorffennaf gyda rhaglen awr yn edrych ymlaen at y gemau.

O Nos Wener 29 Gorffennaf ymlaen, bydd S4C yn dangos rhaglenni hanner awr yn cynnwys uchafbwyntiau, y newyddion diweddaraf a'r holl straeon o dîm Cymru.

Catrin Heledd a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno'r cyfan, gyda Heledd Anna a Tina Evans yn gohebu ym Birmingham, a Gareth Rhys Owen a Gareth Roberts yn sylwebu ar y campau.

Meddai Catrin Heledd: "Mae Gemau'r Gymanwlad yn dod o gwmpas bob pedair blynedd ac yn gyfle arbennig i athletwyr Cymru gynrychioli'r Ddraig Goch.

"Mae'n gyfle i sêr newydd ddod i'r amlwg a chystadleuwyr profiadol ddangos eu doniau ar y llwyfan mawr, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weld pwy fydd yn serennu y tro hwn. #

"Mi fyddwn ni'n dilyn tîm Cymru yn agos iawn ac yn dod â'r holl gyffro o Birmingham, felly gobeithio gallwch chi ymuno â ni bob nos."

Bydd cyfres o ffilmiau byr, Chwedloni, yn cael eu dangos yn yr wythnosau yn arwain at y gemau, yn rhannu profiadau doniol a difyr gan rai o'r unigolion sydd wedi bod yn rhan o'r gemau.

Bydd y ffilmiau yn cael eu ddarlledu ar S4C a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon o ddydd Llun 4 Gorffennaf.

Ar drothwy'r gemau, ar Nos Fawrth 26 Gorffennaf, bydd S4C yn darlledu ffilm arbennig, Cymry'r Gemau, sydd yn dilyn pum aelod o dîm Cymru, wrth iddyn nhw baratoi am y gystadleuaeth.

Bydd y ffilm yn dilyn y taflwr disgen Aled Siôn Davies, y triathletwraig Non Stanford, y bowlwraig lawnt Anwen Butten a'r efeilliaid sy'n cystadlu yn y bocsio, Garan ac Ioan Croft, gan gynnig cipolwg mewn i fywydau prysur y pump a beth mae'n cymryd i gystadlu ar y lefel uchaf.

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Ry'n ni'n torri tir newydd ar S4C drwy ddarlledu o Gemau'r Gymanwlad.

"Bydd ein rhaglenni nosweithiol yn cynnig cyfle i gadw fyny efo hanes Tîm Cymru yn Birmingham yn ogystal â rhannu'r achlysur rhyngwladol arbennig hwn gyda'r gwylwyr gartref.

"Mae'r gemau yn golygu lot fawr i gymaint o athletwyr Cymru ac mi fyddwn ni yno bob dydd i ddangos y gorau o'r cystadlu. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan."

Bydd Birmingham 2022: Cymry yn y Gemau yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru, tra bod Chwedloni a Cymry'r Gemau yn cael eu cynhyrchu gan Orchard.

Dilynwch @S4Cchwaraeon ar Twitter, Facebook ac Instagram am y newyddion diweddaraf yn ystod Gemau'r Gymanwlad.

Gemau'r Gymanwlad 2022 - Rhaglenni S4C

Chwedloni

Yn cychwyn ar Nos Lun 4 Gorffennaf

S4C, S4C Clic a cyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon.

Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C

Cymry'r Gemau

Nos Fawrth 26 Gorffennaf

S4C a S4C Clic

Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C

Birmingham 2022: Cymry yn y Gemau

Pob nos yn ystod y gemau

Nos Iau 28 Gorffennaf i Nos Lun 8 Awst

S4C a S4C Clic

Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?