S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i’r cyhoedd gael blas o ddrama S4C, Dal y Mellt

27 Medi 2022

Bydd cyfle i drigolion Bangor a'r cyffuniau fwynhau pennod cyntaf drama newydd S4C, Dal y Mellt, yng Nghanolfan Pontio, Bangor.

Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yn sinema'r ganolfan ar nos Iau 28 Medi am 8.15.

Mae'r dangosiad yn rhad ac am ddim, ond mae angen archebu tocyn o flaen llaw o wefan Pontio. https://tickets.pontio.co.uk/Online/mapSelect.asp

Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn gydag aelodau'r cast Lois Meleri Jones (Antonia), Dyfan Roberts (Gronw), Graham Land (Les), Owain Arwyn (Dafydd Aldo), awdur a cynhyrchydd y gyfres, Iwan 'Iwcs' Roberts a'r cynhyrchydd Llŷr Morus.

Yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw, mae'r awdur o Drawsfynydd, Iwan 'Iwcs' Roberts', hefyd yn un o'r cynhyrchwyr sy'n gyfrifol am ddod â'r nofel yn fyw.

"Mi wnes i gyhoeddi fy nofel gyntaf, Dal y Mellt, yn 2019," meddai Iwcs. "O ni'n gwybod yn fy nghalon pan o ni'n sgwennu fod hi'n nofel weledol iawn. Drama oedd hi yn fy mhen cyn i mi ddechrau. Peintio hefo geiriau oeddwn i mewn ffordd.

Iwan 'Iwcs' Roberts

Iwan 'Iwcs' Roberts

Felly i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel eto, pa fath o gyfres fydd Dal y Mellt?

"Oedd pobl yn gofyn - be fydda ti'n cymharu fo hefo; Peaky Blinders, stwff Guy Ritchie? Naci, dwi isio pobl ddweud, mae'n debyg i Dal y Mellt. Dwi'n grediniol mai drama Gymraeg i bobl Cymru ydi hon, achos mae'r Cymry'n haeddu fo.

"Mae Rhys Ifans yn dweud ar flaen y nofel, 'Taith wyllt i berfeddion byd sy'n troi o dan ein trwynau'. O ni'n trio creu bywyd eithaf real a byrlymus.

"Sefyllfaoedd mae pobl yn cael eu rhoi i mewn ac maen nhw'n trio ffeindio'i ffordd allan ohoni, a 'does neb yn gwybod yn iawn be sy'n mynd ymlaen.

"O ni'n meddwl fod hwnna'n ddiddorol iawn o ran darllenydd, a dyna dwi'n drio gyfleu rŵan i'r gwylwyr. Felly bydd yr addasiad teledu, sef chwe awr o ddrama, yn dryw iawn i'r nofel."

Bydd y dangosiad yn Gymraeg, gyda isdeitlau, a gyda natur fyrlymus i'r gyfres bydd y ddrama yn siŵr o apelio at gynulleidfa eang.

Oherwydd iaith ffraeth a gref, mae'r dangosiad yn addas at gynulleidfa dros 12 oed.

Mae modd archebu tocynnau yma: https://tickets.pontio.co.uk/Online/mapSelect.asp

Bydd Dal y Mellt yn cychwyn ar S4C ar 2 Hydref am 9.00 a bydd y bocs set cyfan ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?