S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Fideo newydd gan Thallo yn tynnu sylw at gyflwr personol

4 Hydref 2022

Erbyn hyn, mae Thallo yn enw cyfarwydd yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt ac yn mynd o nerth i nerth. Mae ei record fer a'i senglau cyntaf o 2021 megis Mêl, Pressed and Preserved a The Water a Carry Me yn 2022 wedi derbyn ymateb gwych.

Mae hi wedi ennyn cefnogaeth gan Sian Eleri (Radio 1) a Huw Stephens (BBC 6 Music a Radio Wales) yn ogystal â recordio sesiwn yn Maida Vale a derbyn canmoliaeth yn y wasg gan gynnwys Wonderland, Noctis, God is in the TV Zine, When the Horn Blows a blogiau yn y DU a'r Unol Daleithiau. Ac ymysg hyn oll wedi perfformio yn The Great Escape a sicrhau lle yng ngŵyl SXSW yn 2023.

A nawr, mae fideo i'r gân Pluo o'r record fer newydd, Crescent, wedi'i ryddhau ar blatfform Lŵp S4C. Ac mae hi'n werth ei gweld.

Mae'r fideo wedi'i ysbrydoli gan ffilmiau arswyd seicolegol a'i saethu mewn man hela ysbrydion poblogaidd, Ysbyty Bron y Garth, cyn-wyrcws ac ysbyty gwag o'r 1800au, sydd wedi rhewi mewn amser.

"Mae'r lleoliad yn adlewyrchu geiriau Pluo o deimlo'n sownd ac yn dirywio." Meddai Thallo. Teimlad sy'n gyfarwydd iawn iddi.

Yn 2020, buodd Thallo, neu Elin Edwards sy'n wreiddiol o Wynedd a bellach yn byw yn Llundain, yn dioddef o boen cronig a effeithiodd ar ei symudedd hi yn dilyn salwch sydyn. Mae Pluo yn cyffwrdd â'r boen ryfedd o wylio'r byd yn dychwelyd ar ôl y clo mawr tra ei bod hithau'n gaeth. Mae hi'n ei ddisgrifio fel "fy nghlo personol fy hun."

Ac mae'r fideo sicr yn adlewyrchu'r teimladau hyn:

"Roeddwn i'n teimlo mor sownd, yn methu â dychwelyd i fy mywyd normal." Meddai Thallo, "Ond yn bennaf oll, gwaedd o ofn yw'r gân am yr unigrwydd a'r anobaith o gael eich gadael ar ôl tra bod pawb arall yn symud ymlaen."

Mae'r fideo, sydd wedi'i chyfarwyddo gan Aled Wyn Jones ac Andy Pritchard, yn gweld Thallo yn deffro mewn bath llawn gwaed ar lawr yr ysbyty. A thrwy gydol gweddill y fideo, cawn weld brwydr i geisio dianc o'r adeilad sy'n frith o ddelweddau iasol ac ôl-fflachiadau arswydus sy'n arwain at sylweddoliad go sinistr ar y diwedd.

Gwyliwch Pluo gan Thallo ar YouTube Lŵp S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?