S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ymuno â Chronfa Deledu Di-Sgript Screenskills, gan atgyfnerthu ymrwymiad y gronfa i gefnogi hyfforddiant a datblygiad

25 Ebrill 2023

Mae S4C, y darlledwr Cymraeg, wedi ymuno â Chronfa Deledu Di-Sgript ScreenSkills, sy'n gweithio i gryfhau'r sector creadigol gyda thalent a sgiliau newydd ym maes cynhurchu ar draws y Deyrnas Unedig.

S4C yw'r darlledwr diweddaraf i ymuno â'r gronfa, gan gynnwys y BBC, Channel 4, Sky, A+E Network UK, Discovery UK, Channel 5, Netflix, Amazon, ITV, a UKTV. Y genres sy'n cael eu cefnogi drwy'r gronfa yw ffeithiol arbenigol, ffeithiol cyffredinol, adloniant ffeithiol, chwaraeon, adloniant, materion cyfoes, y celfyddydau a cherddoriaeth glasurol, crefydd a moeseg ac addysg.

"Rwyf wrth fy modd bod S4C, y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg, yn ymuno â'r gronfa," meddai Sarah Joyce, Pennaeth Di-Sgript a Theledu Plant ar gyfer ScreenSkills. "Ers ei sefydlu, mae'r gronfa wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu medrus yn y sector cynhyrchu ar draws y DU ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda S4C i gael effaith wirioneddol a chynaliadwy y tu ôl i'r camera ar gynyrchiadau ledled Cymru."

"Rydym ni'n hynod o falch o ddod yn rhan o'r Gronfa Deledu Di-Sgript," ychwanegodd Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C. "Mae datblygu talent yng Nghymru yn rhan hanfodol o waith S4C, a thrwy ymuno â grŵp llywio'r Gronfa, bydd lleisiau Cymreig a'r sector yng Nghymru yn cael eu cynrychioli wrth i flaenoriaethau gwaith y Gronfa gael eu gosod."

Cafodd y Gronfa Deledu Di-Sgript ei chreu yn 2021 gydag ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn hyfforddiant y tu allan i Lundain. Mae o leiaf 50% o'r gronfa yn cael ei fuddsoddi i gefnogi darparwyr hyfforddiant yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau, gan godi i 100% mewn ardaloedd lle mae prinder penodol. Mae isafswm o 50% o'r gwariant a'r hyfforddiant yn cael ei roi i hyfforddwyr y tu allan i Lundain, ac mae'r rhwydwaith hwn wedi tyfu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Daw o leiaf hanner aelodaeth cyngor a gweithgorau'r gronfa o'r tu allan i Lundain gan gynrychioli'r holl wledydd a rhanbarthau, yn ogystal â'r genres amrywiol sy'n cael eu cefnogi gan y gronfa. Yn ogystal, mae'n rhaid i leiafswm o 50% o'r darparwyr hyfforddiant fodloni o leiaf un nod amrywiaeth a chynhwysiant a gydnabyddir gan y diwydiant.

Nodiadau i Olygyddion

Mae cynyrchiadau Unscripted UK yn cyfrannu 0.25% o bris cytunedig y comisiwn wedi'i rannu'n gyfartal rhwng y darlledwr neu SVoD a'r cwmni cynhyrchu, hyd at gap y cytunwyd arno. Mae hyn yn golygu am bob £1,000 sy'n cael ei wario, bydd y darlledwr yn talu £1.25 a'r cwmni cynhyrchu yn talu £1.25. Mae'r darlledwr neu SVoD yn casglu'r cyfraniad i'r gronfa ar gyfer y cwmni cynhyrchu.

Darlledwr Gwasanaethau Cyhoeddus yw S4C a'r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd! Mae S4C yn darlledu ystod eang o raglenni gan gynnwys drama, dogfennau, Newyddion, cerddoriaeth, adloniant, chwaraeon byw a rhaglenni plant. Mae'r nifer helaeth o raglenni yn cael eu cynhyrchu gan gwmnïau annibynnol. Mae S4C hefyd yn cynhyrchu deunydd ar-lein gan gynnwys HANSH, gwasanaeth i bobl rhwng 16 – 34 oed yn bennaf. Mae modd gwylio S4C hefyd ar wasanaeth ar alw S4C Clic a mwynhau amryw o gynnwys ecsgliwsif, archif, dal i fyny a bocs sets.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?