S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

1 Mehefin 2023

Mae cewri byd perfformio Cymru wedi talu teyrnged i'r actor, Dafydd Hywel, mewn rhaglen deledu arbennig fydd i'w gweld nos Sul, Mehefin 4ydd am 9pm.

Ar Mawrth 23 eleni, bu farw Dafydd Hywel yn 77 oed wedi cyfnod o salwch.

Yn hanu o'r Garnant yn nyffryn Aman, roedd gan Dafydd Hywel sawl enw – DH, Alff Garnant, Caleb, Efnisien – enwau cyfarwydd sydd yn rhan o'i stori.

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno i ni o bersbectif y rheiny oedd yn ei adnabod orau. Dyma hanes eicon Cymreig yng ngeiriau'r rhai oedd agosaf ato, ac yng ngeiriau'r dyn ei hun. Mae'r hanesion yn ddwys ac yn ddoniol ac yn gofnod gonest a diffuant am un o gymeriadau mawr y byd perfformio yng Nghymru.

Meddai un o gyfeillion mwyaf DH, yr actor John Ogwen, tra'n ceisio dal ei ddagrau yn ôl, "Dwi di colli rhywun lle does na neb arall yn gallu llenwi'r bwlch... Roedd o angen rhywun i edrych ar ei ôl o – fel angor – ro'dd y llong yn mynd ar ddisberod bob hyn a hyn."

Dafydd Hywel oedd tad bedydd un o blant John Ogwen: "Oedden ni ar daith [a dyma fi'n gofyn i DH] fasa'n ni'n licio dy fod di yn dad bedydd i'r plentyn. Ie iawn medda fo... o'n i'n disgwyl ymateb dipyn bach mwy na hynna, ac yn sydyn 'ma fo'n codi ac off â fo i rwla, a'r lle aeth o oedd i weld Beryl Williams, a dyma fo'n gofyn 'beth yffach yw tad bedydd'? Wel, god father – ... dyma fo'n ôl i'r bar a gafael ynof i a'm codi i'r awyr – DH de."

Mae'r rhaglen hon yn cofio dyn cymhleth, llawn direidi a hiwmor a gyda thalent aruthrol wnaeth berfformio ar lwyfannau theatr, teledu, ffilm a hefyd yn brif weithredwr ar ei gwmni theatr ei hun – Mega. Fel esbonia ei gyfaill a'r actor, Dafydd Emyr: "Nid Cinderella a Puss in Boots oeddem ni... yn ei gyflwyno i'r plant. Rown ni amcangyfrif bod 'na 40,000 bob blwyddyn yn gweld ei sioeau fo... wedi ei luosi â chwarter canrif [o berfformiadau] mae hynny'n filiwn o blant. Plant bach Cymru wedi cael eu bendithio ar etifeddiaeth Gymreig oedd mor bwysig a mor agos at ei galon o."

Daw un o'r cyfraniadau mwyaf emosiynol gan yr actor o Awstralia Gary Sweet wnaeth rannu'r sgrin â Dafydd Hywel yn y ffilm Derfydd Aur ffilmiwyd ar leoliad yn Awstralia, meddai Gary: "Fe wnaeth DH a minnau ddwlu ar ein gilydd y tro cyntaf i ni gyfarfod, roedd rhywbeth drygionus amdano, roedd rhywbeth amharchus amdano. Ro'n i wrth fy modd â'i wybodaeth am chwaraeon a'i synnwyr digrifwch."

Mae'r hanesion o'r difrifol i'r ysgafn i gyd yn y rhaglen hon sydd yn cwmpasu bywyd llawn iawn ac yn gofnod hynod emosiynol a gonest.

Medd Sharon Morgan ei nith a chyd-actores: "Hywel o'dd ei enw teuluol... o'dd e wastad yn llawn bywyd, llawn egni, chwerthin, gweiddi, a fel beth odd mamgu yn galw yn ddyn llawn, yn ddyn llawn iawn."

Un oedd yn agos iawn i DH oedd yr actores Ruth Jones, a mynnai siarad Gymraeg â hi ar bob adeg – hyd yn oed pan nad oedd hi'n ei ddeall. Medd Ruth ar y rhaglen: "Pan yn gweithio ar Stella, roedd DH yn siarad Cymraeg 'da fi trwy'r amser... pan ddwedes i dwi ddim yn deall ti... ro'dd e'n cario 'mlaen."

Medd Ruth: "Mae lot o gariad 'da fe i bawb ond does dim ofn gydag e i ddweud ei farn... just really dyn hyfryd hyfryd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?