S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Shane Williams ac Ieuan Evans ar daith i gartref Cwpan Rygbi’r Byd

06 Mehefin 2023

Bydd dau o gewri rygbi Cymru yn ein tywys ar daith o amgylch Ffrainc cyn cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2023.

Mae Shane ac Ieuan wedi chwarae i Gymru mewn tri Chwpan Rygbi'r Byd a rhyngddyn nhw wedi sgorio 17 cais yn ystod y gemau hynny.

Cafodd y gyfres Cwpan Rygbi'r Byd – Shane ac Ieuan ar S4C ei ffilmio yn Hydref 2022 er mwyn adlewyrchu'r cyfnod o'r flwyddyn y bydd cefnogwyr Cymru yn ymweld â Ffrainc.

Fe fydd y ddau yn mynd â ni ar daith o gwmpas rhai o'r dinasoedd sy'n gartref i'r naw stadiwm a fydd yn cynnal gemau'r gystadleuaeth.

O ddinasoedd hanesyddol y gogledd i draethau godidog y de, bydd Shane ac Ieuan yn mwynhau diwylliant y wlad, yn cwrdd â ffrindiau hen a newydd, ac yn hel atgofion.

"Mae gyd am yr eiliadau pwysig yna... y foment fawr sy'n newid pethau," meddai Ieuan, wrth grynhoi pwysigrwydd gemau Cwpan Rygbi'r Byd.

Y foment fawr iddo fe oedd gweld cefnogwyr Cymru yn y dorf yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd yn 1987.

"Doedd dim lot o Gymru yna achos oedd e yn Rotorua, sy'n dipyn o daith. Ond roedden nhw i gyd yna i'n helpu ni ac mae hynny'n sefyll mas fel moment fawr i fi," meddai Ieuan.

"2003 sy'n sticio mas 'da fi," meddai Shane.

Cafodd gyfle i fynd i Gwpan y Byd yn Awstralia fel trydydd mewnwr.

Roedd tair gêm wedi bod a doedd e heb gael y cyfle i chwarae tan y gêm olaf yn erbyn Seland Newydd.

Er i Gymru golli 53-37 yn erbyn y Crysau Duon fe lwyddodd Shane i sgorio cais bythgofiadwy, a dangos ei ddoniau i'r byd.

"Dyma oedd gêm fwya' pwysig fy mywyd i. Troiodd e pethe. Fi dal yn meddwl, tasen i ddim wedi chware'n dda fydden i byth wedi chware i Gymru eto," meddai Shane.

Ar ôl rhannu atgofion am rai o uchafbwyntiau eu gyrfa mae eu meddyliau'n troi at win, bara a chaws a'r croeso unigryw fydd yn disgwyl cefnogwyr yn Ffrainc.

Cawn flas o Ffrainc wrth i'r ddau farchogaeth yr eliffant mecanyddol anferth, sy'n rhan o'r Machines de l'île yn Nantes, mwynhau celf stryd y ddinas, a chwarae gwyddbwyll yn un o sgwariau hanesyddol Lille.

Mae'r ddau yn cwrdd hefyd â cyn-fachwr Ffrainc, Benjamin Kayser, wnaeth ymddeol yn 2019 ac sydd bellach yn sylwebydd.

"Dw i'n hynod o gyffrous," meddai Benjamin sy'n dweud bod Ffrainc yn edrych ymlaen at roi croeso arbennig i'r gystadleuaeth.

"Mae Lille yn unigryw, ac mae'r bobl yn gynnes a chroesawgar. Mae'n dref parti mawr, maen nhw'n dwlu ar eu diod fan hyn – mae fel Wind Street yn Abertawe! Chi'n gwybod bod chi am gael amser gorau eich bywyd," meddai Benjamin.

Ond ai dyma'r flwyddyn bydd Ffrainc yn codi'r gwpan?

"Y cwbl alla'i wneud ydy rhoi fy nghefnogaeth lawn i'r tîm. Fyddwn ni'n gwybod mwy ar ôl y gêm gyntaf," meddai.

Unai drwy wibio ar drên cyflym TGV neu deithio'r strydoedd mewn tuk-tuk fe fydd Shane ac Ieuan yn ein tywys o amgylch y dinasoedd fydd yn croesawu cefnogwyr rygbi'r byd.

Y canllaw perffaith i'r twrnamaint i'r cefnogwyr fydd yn teithio i Ffrainc, a'r rhai fydd yn gwylio'r rygbi adref ar y soffa.

Cwpan Rygbi'r Byd Shane ac Ieuan

Nos Iau 8 Mehefin, 9.00

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?