S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Manon Edwards Ahir fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata

07 Mehefin 2023

Mae S4C wedi cryfhau ei hadran Cyfathrebu a Marchnata mewnol, gan benodi Manon Edwards Ahir yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata i arwain tîm sy'n cynnwys y Pennaeth Marchnata – Rebecca Griffiths a benodwyd yn ddiweddar, a'r Arweinydd Cyfathrebu Gwyddno Dafydd.

Mae Manon wedi gweithio ym maes newyddiaduraeth a chyfathrebu ers dros bum mlynedd ar hugain. Yn fwyaf diweddar bu'n Bennaeth Cynllunio a Materion Allanol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ôl treulio cyfnod fel Pennaeth Newyddion, Cyfryngau a Digidol yn Senedd Cymru, gan oruchwylio'r gwaith o gyfathrebu ac ail-frandio Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth iddo esblygu i fod yn Senedd Cymru. Cyn hynny, bu'n gydberchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Mela Media, gan gynrychioli ystod eang o gleientiaid ag arbenigedd yn y sector cyfryngau a darlledu yn y sector preifat a chyhoeddus.

Bu Manon hefyd yn gweithio fel newyddiadurwr a chynhyrchydd cyfresi yn y BBC ym maes materion tramor a chasglu newyddion, gan arbenigo mewn gwleidyddiaeth. Bu'n flaenllaw yn narllediadau etholiad byw'r BBC yng Nghymru yn ystod y degawd cyntaf ar ôl datganoli, ac mae hi wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Mae Manon hefyd wedi gweithio i Brifysgol Caerdydd fel Darlithydd Newyddiaduraeth a Chyfathrebu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Mae Manon hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Cefnogir y cyfarwyddwr newydd gan Gwyddno Dafydd – sy'n ymuno ag S4C o Lywodraeth Cymru lle bu'n Uwch Swyddog y Wasg i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Cyn hynny, bu Gwyddno yn gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru am 17 mlynedd. Mae Swyddog Cyfathrebu newydd, Heledd ap Gwynfor – sy'n ymuno o Mentrau Iaith Cymru, y mudiad cenedlaethol sy'n cefnogi mentrau Cymraeg lleol – yn cwblhau'r tîm gan ymuno â'r Swyddogion Cyfathrebu presennol Sara Maredudd Jones a Heledd Williams.

Fel Pennaeth Marchnata newydd, bydd Rebecca Griffiths yn cefnogi Manon Edwards Ahir i hybu ymgyrch farchnata S4C gartref ac yn fyd-eang.

Dechreuodd Rebecca ei gyrfa gyda Tinopolis cyn symud ymlaen i swyddi proffil uchel gyda Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. O dan ei harweiniad, enillodd Uned Farchnata Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wobr Tîm Mewnol Gorau'r Flwyddyn yng Ngwobrau Materion Cyhoeddus Ewropeaidd ym Mrwsel.

Mae penodiadau newydd eraill yn cynnwys Ryan Chappell sydd wedi'i benodi i rôl Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol.

Gweithiodd Ryan fel Dirprwy Bennaeth yn y Sector Cynradd lle roedd pwyslais ar amrywiaeth a chynhwysiant yn nodwedd gref o'i arweinyddiaeth ac ethos yr ysgol. Mae Ryan hefyd wedi gweithio'n agos gyda BAME Ed Cymru i ddatblygu ei ddealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle:

"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi sicrhau tîm mewnol mor gryf i arwain ein strategaeth cyfathrebu a marchnata wrth i ni barhau â'n rhaglen drawsnewid yn S4C.

"Rwy'n gwybod y bydd y tîm yn gweithio'n ddiflino i hyrwyddo cynnwys gwych y sianel i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU a thu hwnt."

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata newydd, Manon Edwards Ahir;

"Rwy'n gyffrous iawn i fod yn arwain tîm trawiadol o gyfathrebwyr a marchnatwyr sy'n medru ymgysylltu â'n holl gynulleidfaoedd, ble bynnag y bônt, a sut bynnag maen nhw'n dymuno cyrraedd at yr holl gynnwys hynod amrywiol sydd gan S4C i'w gynnig.

"Alla i ddim aros i ymuno ag S4C wrth iddi gamu i bennod newydd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?