S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru tan 2028

15 Mehefin 2023

Bydd S4C yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028 mewn cytundeb newydd mewn partneriaeth â Viaplay.

Mi fydd y ddarpariaeth Gymraeg yn cynnwys dwy ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ar gyfer 2024/25 a 2026/27, gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 a gemau rhagbrofol UEFA EURO 2028.

Bydd gemau cyfeillgar rhyngwladol Cymru hefyd yn rhan o'r cytundeb hwn fydd yn gweld o leiaf 40 gêm fyw ar S4C.

Dywedodd Aaron Ramsey, Capten tîm dynion Cymru:

"Mae'n newyddion gwych fod y gemau am fod ar gael i bawb ar S4C. Mae'n rhywbeth sydd hefyd yn hwb aruthrol i'r iaith Gymraeg. "Y nod i ni fel carfan yw cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros a Chwpan y Byd, ac rydym yn gobeithio bydd S4C yn rhannu ein llwyddiant gyda'r gwylwyr."

Mae'r cytundeb rhwng y gwasanaeth ffrydio Viaplay a S4C yn bartneriaeth unigryw fydd yn caniatáu i S4C gael yr hawliau iaith Gymraeg yn ecsgliwsif yn y DU i ddarlledu'r gemau am ddim.

Rondo, cynhyrchwyr darllediadau 'Sgorio Rhyngwladol' o bêl-droed Cymru ar S4C fydd yn cynnal y darllediad ar gyfer holl gemau rhyngwladol cartref Cymru.

Daw hyn wrth i'r hawliau i ddarlledu pob un o gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Dan 21 UEFA Ewro 2025 yn Slofacia hefyd gael eu sicrhau gan S4C.

Dywedodd Sian Doyle Prif Weithredwr S4C:

"Rydym wrth ein boddau ein bod ni'n gallu darlledu gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru ar S4C tan 2028.

"Mae hyn yn adeiladu ar y bartneriaeth ragorol sydd gennym eisoes gyda Viaplay, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad ar y cytundeb.

"S4C yw cartref pêl-droed Cymru, ac rydym yn falch o sefyll ochr yn ochr â Chymdeithas Pêl-droed Cymru a chefnogwyr brwd y Wal Goch."

Dywedodd Ed Breeze, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Chwaraeon y DU yn Viaplay:

"Rydym wrth ein boddau i fod yn bartner gydag S4C sydd wedi bod yn gefnogwr anhygoel i bêl-droed Cymru ar hyd y blynyddoedd.

"Mae gan bêl-droed Cymru gefnogwyr brwd iawn ac rydym ni'n falch o sicrhau bod y gemau hyn sydd mor arwyddocaol yn genedlaethol ar gael i'r gynulleidfa ehangaf posib."

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

"Mae ein partneriaeth gydag S4C wedi bod yn gonglfaen i dwf Y Wal Goch ac rydym yn hapus iawn fod gemau Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru am fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb. Rwyf am ddiolch i Viaplay, sydd wedi bod yn allweddol yn y cydweithio hyn i sicrhau bod ein gemau ar gael i bawb.

"Mae Sian Doyle yn S4C hefyd wedi bod yn ffigwr allweddol wrth drafod y canlyniad positif yma i Gymru. Mae hon yn oes aur i Gymru, ac rydym yn falch iawn o allu ei rannu â phawb."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?