S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tudur Owen am dynnu sylw at swyn enwau llefydd Cymraeg

21 Mehefin 2023

Mewn cyfres o eitemau i wefannau cymdeithasol S4C, mae'r comedïwr a'r cyflwynydd Tudur Owen yn rhybuddio y gall enwau lleoedd Cymraeg ddiflannu os nad ydyn nhw yn cael eu defnyddio.

Yn ôl Tudur Owen mae'r enwau Cymraeg yma yn perthyn i bawb – gan gynnwys pobl sy'n byw y tu allan i Gymru.

Mae'r chwe ffilm fer wedi'u creu fel rhan o gyfres boblogaidd Cynefin, ac yn cael eu cyhoeddi yn dilyn dadlau brwd yn y cyfryngau am benderfyniad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i beidio a defnyddio eu henw Saesneg.

Drwy gyflwyno cyfoeth hanes enw chwe lleoliad gan gynnwys y Bannau, Llandysul, Y Gogarth yn Llandudno, Betws-y-coed a Phenychain ger Pwllheli mae Tudur yn gobeithio sbarduno pobl i drysori a defnyddio'r enwau Cymraeg.

Mae'r chwe ffilm fer wedi cael eu cynhyrchu i S4C gan Rondo ac fe fydd yr eitemau ar gael i'w gwylio ar blatfformau YouTube, Facebook, Twitter a TikTok S4C.

Er mwyn lledu'r neges am bwysigrwydd enwau Cymraeg mor eang â phosib mae Tudur hefyd wedi paratoi fersiynau o'r eitemau yn Saesneg.

Dywedodd Tudur Owen:

"Dwi'n angerddol am enwau llefydd Cymraeg. Dwi'n meddwl bod nhw'n bwysig gan eu bod nhw nid yn unig yn deutha' ni lle ydan ni, ond hefyd pwy ydan ni. Mae 'na wastad yn amlach na pheidio stori dda tu ôl i enwau Cymraeg - mae 'na ganrifoedd o hanes i ddechrau efo hi.

"Mae'n bwysig cadw gafael arnyn nhw achos 'da ni'n gweld nhw'n diflannu ac yn gweld nhw fel rhyw fath o symptom o'r bygythiad sydd yna i gymdeithas fel mae pethau'n newid.

"Dwi'n trio peidio pregethu'n ormodol ond ein henwau ni ydyn nhw, ac maen nhw'n perthyn i bawb - gan gynnwys pobl tu allan i Gymru. Maen nhw'n rhan o hanes Ynysoedd Prydain wedi'r cyfan - yn rhywbeth i'w trysori a'u gwarchod.

"Be dwi'n obeithio ydi y bydd pobl yn cael y wybodaeth o'r ffilmiau bach yma ac wedyn yn medru gwneud penderfyniad dros eu hunain, achos dwi'n meddwl bod hi'n gamgymeriad i draethu a deddfu a gorfodi pobl i'w defnyddio. Mae'n rhaid i bobl eu defnyddio nhw o'u gwirfodd, a gwneud y penderfyniad wedi cael y wybodaeth i gyd."

Dywedodd Llinos Wynne, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C:

"Mae'r ddadl dros y defnydd o enwau llefydd Cymraeg wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, ac felly mae Tudur, sydd mor angerddol am y pwnc yn un delfrydol i gyflwyno'r pecynnau.

"Mae hefyd yn bwysig bod cynnwys o'r math yma ar gael i'r di-Gymraeg gan fod ganddo gyfraniad mor werthfawr i'w wneud i ehangu dealltwriaeth o darddiad ein henwau llefydd. Y gobaith yw, drwy gyfrwng ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, y bydd yr eitemau hyn yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?