S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2024

18 Chwefror 2024

Mae rhestr fer caneuon ar gyfer Cân i Gymru 2024 wedi cael ei chyhoeddi.

Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno'r gystadleuaeth a fydd, am y tro cyntaf, yn cael ei chynnal ar lwyfan enfawr Arena Abertawe, ar nos Wener 1af o Fawrth 2024; Dydd Gŵyl Dewi.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr yw cadeirydd panel y beirniaid a fydd yn mentora'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws newydd sbon Cân i Gymru i'r enillydd. Y beirniaid yw'r gantores a'r gyfansoddwraig Bronwen Lewis, y DJ a'r cyflwynydd Dom James, y gantores a'r berfformwraig West End Mared Williams a'r cerddor Carwyn Ellis.

Mi fydd cyfansoddwr y gân fuddugol hefyd yn bachu £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Dyma'r ail a'r drydedd wobr fwyaf yn hanes y gystadleuaeth.

Yr wyth cân sydd wedi cael eu dewis i gystadlu yw:

  1. Yr Un Fath gan Jacob Howells.
  2. Heno gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Elin Hughes yn perfformio.
  3. Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands. Gwion Phillips yn perfformio.
  4. Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts. Moli Edwards yn perfformio.
  5. Ti gan Sara Davies.
  6. Cymru yn y Cymylau gan Lowri Jones a Sion Emlyn Parry. Lowri Jones yn perfformio.
  7. Pethau yn Newid gan Sion Rickard.
  8. Mêl gan Owain Huw a Llewelyn Hopwood.

Y gwylwyr sy'n gyfrifol am ddewis yr enillydd drwy fwrw eu pleidlais dros y ffôn.

Bydd yr holl ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio Cymru o Chwefror 20 ymlaen. A bydd modd i wylwyr adref ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #CiG2024.

1.Yr Un Fath gan Jacob Howells.

Daw Jacob yn wreiddiol o Lanelli ac wedi derbyn gradd Meistr mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerfaddon yn ddiweddar. Mae o'n cyfansoddi ers oedd o'n 13 mlwydd oed. Dyma'r tro cyntaf iddo wneud cais, ac mae'r gân yn adlewyrchu colli hyder wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg a'r teimlad braf o ail-afael â'r diwylliant unwaith eto.

2.Heno gan Elfed Morgan Morris a Carys Owen. Elin Hughes yn perfformio.

Mae Elfed, sy'n Bennaeth ar Ysgol Llandygai, eisoes wedi cyfansoddi cân fuddugol sef y gân 'Gofidiau', a enillodd y gystadleuaeth yn 2009. Mae Carys, sy'n athrawes yn Ysgol y Felinheli, hefyd wedi cael llwyddiant nôl yn 2002, pan ddaeth y gân 'Rhy Gry', a gyfansoddwyd ar y cyd gydag Emyr Rhys, ddod yn ail. Ac mae'r ddau wedi cydweithio nol yn 2022 gyda'r gân 'Rhyfedd o Fyd', a ddaeth yn drydydd.

Mae 'Heno' yn gân bop bositif sydd am wneud i bobl ddawnsio.

3.Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands. Gwion Phillips yn perfformio.

Efa yw awdur y gân 'Cysgod Coed', a Gwion sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth. Mae'n gân serch am gariad cyntaf. Mae Efa yn 20 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerdydd gyda'i theulu. Mae hi wedi actio mewn sioeau Cyw ac yn y theatr, ac wedi ennill Tlws yr Ifanc yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn 2021.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yw Gwion, a daw'n wreiddiol o Aberystwyth. Mae cerddoriaeth yn bwysig yn ei fywyd, a'i brif offeryn yw'r drymiau. Eleni fydd y tro cyntaf iddo ganu'n gyhoeddus yn unigol.

4. Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts. Moli Edwards yn perfformio.

Mae Steve yn ganwr ac yn gyfansoddwr o Abertawe. Mae o wedi actio mewn cynyrchiadau o Les Miserables a Jesus Christ Superstar yn y 1990au ac wedi bod mewn sawl band dros y blynyddoedd. Mae o hefyd wedi teithio gydag Elton John, Meatloaf, Slash, Jon Lord o Deep Purple ac eraill. Ac mae'n enw cyfarwydd yn y gystadleuaeth hefyd. Fe gyd-ysgrifennodd y gân 'Cri' a gafodd ei berfformio gan Arwel Gruffudd yn 1995, a'r gân 'Rhywun yn Rhywle' wedi'i berfformio gan Tesni Jones yn 2011.

Mae Kirstie wedi'i geni a'i magu yng Nghastell Nedd ac yn athrawes ganu. Yn bennaf, cefndir mewn cerddoriaeth glasurol sydd ganddi ac mae'n canu'r delyn ac yn chwarae'r cello. Mae hi wedi ail-afael â'i Chymraeg trwy ei mab 8 mlwydd oed.

Cân am berthynas merch ifanc a'i thad yw 'Goleuni'.

5.Ti gan Sara Davies.

Cân serch gan Daid Sara i'w Nain yw 'Ti'. Mi ysgrifennodd ei Thaid geiriau'r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli, mi aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth. Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes Cerddoriaeth, Drama a Lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae hi'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian ac yn aelod o'r grŵp 50 Shêds o Lleucu Llwyd.

6. Cymru yn y Cymylau gan Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry. Lowri Jones yn perfformio.

Hiraeth am Gymru yw neges y gân yma gan i'r ddau gyfansoddwr fyw tu hwnt i Gymru am sawl blwyddyn. Mae'r gân yn disgrifio'r siwrne o ddychwelyd gan bwysleisio pwysigrwydd cymuned. Daw Lowri yn wreiddiol o Ynys Môn a bellach yn byw ger Caernarfon. Mi astudiodd Cerddoriaeth yng Nghernyw ac yn gweithio fel Peiriannydd Sain ac i elusen Codi'r To, sy'n arwain gweithgareddau cerddorol mewn ysgolion.

Mae Siôn wedi'i eni a'i fagu yn Seion, ger Caernarfon. Mi astudiodd Perfformio yng Nghaerdydd cyn symud i Los Angeles i astudio Actio. Mae'n ddrymiwr i'r band Ffatri Jam ac yn chwarae'r offeryn ers oedd o'n 5 mlwydd oed. Mae'n gweithio gyda Lowri yn yr elusen Codi'r To, ac hefyd yn diwtor drama i Glwb Drama Sbarc yn Galeri Caernarfon.

7. Pethau yn Newid gan Siôn Rickard.

Cân am yr awydd i fywyd arafu yw hon, a'r teimlad o fywyd yn llithro o'r gafael. Mae Siôn yn wreiddiol o Fetws y Coed ac wedi ymgartrefu bellach ym Machynlleth. Mae'n wyneb cyfarwydd i gystadleuaeth Cân i Gymru gan mai dyma'r trydydd tro iddo ddod i'r 8 olaf mewn tair mlynedd. Fe ganodd y gân 'Rhiannon' yn 2022 ac 'Y Wennol' gyda'i frawd Liam o dan enw eu band, Lo-fi Jones.

8. Mêl gan Owain Huw a Llewelyn Hopwood.

Neges y gân hon yw i ddyfalbarhau a chydweithio mewn bywyd. Daw Owain yn wreiddiol o Abertawe a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae o'n actor ac yn ddiweddar wedi bod yn rhan o'r gyfres Master of the Air ar Apple TV. Daw Llewelyn o Gaerfyrddin, a bellach yn byw yn Llundain. Mae cerddoriaeth yn ran mawr o'u bywydau nhw, ac roeddent yn rhan o'r band Bromas gyda'i gilydd.

Cân i Gymru

Nos Wener, 1 Mawrth, 20.00 S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a platfformau eraill

Cynhyrchaid Afanti Media i S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?