S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodi Prif Weithredwr dros dro

29 Chwefror 2024

Mae Bwrdd Unedol S4C wedi penodi Sioned Wiliam fel Prif Weithredwr dros dro.

Mae Sioned yn adnabyddus yn y diwydiant fel cyn-Gomisiynydd Comedi BBC Radio 4 a chyn-Bennaeth Comedi ITV.

Cyn hynny bu'n gynhyrchydd rhaglenni gyda chwmnïau teledu Talkback a Hat Trick.

Bydd yn dechrau ar ei gwaith yn rhan amser ym mis Mawrth, cyn ymuno yn llawn amser gyda S4C yn ystod mis Ebrill.

Prif gyfrifoldeb Sioned dros y misoedd nesaf fydd arwain ar Gynllun Gweithredu S4C, sydd wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd Unedol, ac sy'n dilyn cyhoeddi Adroddiad Capital Law.

Mae'r cynllun yn nodi rhaglen waith i fynd i'r afael yn llawn â'r materion mae S4C wedi'u hwynebu ers 2022.

Y bwriad yw adfer ymddiriedaeth staff S4C a'r sector creadigol drwy edrych ar arweinyddiaeth, diwylliant, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a llywodraethiant y sefydliad.

Fel rhan o'r cynllun bydd arbenigwyr allanol yn arwain adolygiad o werthoedd y sefydliad, bydd yna adolygiad allanol o effeithiolrwydd llywodraethiant S4C, bydd rheolwyr yn cael hyfforddiant ar arweinyddiaeth a rheoli newid, a bydd y trefniadau cyfathrebu mewnol hefyd yn cael eu cryfhau.

Yn dilyn penodi Sioned Wiliam bydd Geraint Evans yn parhau yn ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys dros dro a bydd Elin Morris yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredu S4C.

Mae disgwyl hefyd y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn apwyntio Cadeirydd dros dro yn fuan i arwain Bwrdd Unedol S4C.

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C:

"Edrychaf ymlaen at groesawu Sioned i S4C yn dilyn cyfnod digynsail o anodd i'n gweithlu.

"Daw profiad arweinyddiaeth Sioned yn ogystal â'i chefndir a phrofiad yn y diwydiant â chwa o awyr iach i S4C, a'i blaenoriaeth hi bydd sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn ysbrydoli newid ar draws y sefydliad – er budd ein pobl, y sector creadigol ac wrth gwrs ein cynulleidfaoedd.

"Rwy'n gwybod bod Sioned yn awyddus i fynd i'r afael â'r gwaith o adfer hyder ac ymddiriedaeth yn S4C, gan sicrhau bod S4C unwaith eto yn le hapus i weithio, a phobl yn teimlo eu bod yn gallu bod ar eu gorau, a gwneud eu gorau i S4C a'r iaith Gymraeg.

"Ar ran Cyfarwyddwyr Anweithredol y Bwrdd hoffwn ddiolch i holl staff a Thîm Rheoli S4C am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb dros y misoedd diwethaf, gan wybod y byddant yn rhoi pob cefnogaeth i Sioned wireddu'r Cynllun Gweithredu ac adfer ffydd yn S4C."

Dywedodd Sioned Wiliam Prif Weithredwr dros dro S4C:

"Dwi'n hynod ddiolchgar am y cyfle yma i fod yn rhan o stori S4C - sianel sydd wedi bod yn rhan annatod o'm mywyd ers iddo gychwyn - fel gwyliwr, cynhyrchydd, cyflwynydd ac fel mam ddiolchgar.

"Mae arlwy S4C yn arbennig iawn ac mae'r berthynas rhwng y sianel a'r gynulleidfa yn hollbwysig - edrychaf ymlaen at wneud bob dim y medraf i hwyluso hyn.

"Dwi am sicrhau fod S4C yn le da i weithio, lle mae'r staff yn cael eu parchu a'u cefnogi. Mae'n rhaid i bawb sydd yn gysylltiedig a'r sianel fod yn medru ymddiried ynddo gan wybod y bydd yn gweithio er budd y gweithlu, y rhanddeiliaid a'r gynulleidfa."

Mae mwy o wybodaeth am Gynllun Gweithredu S4C i'w weld yma:

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?