S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ti gan Sara Davies yw enillydd Cân i Gymru 2024

01 Mawrth 2024

Y gân Ti gan Sara Davies yw enillydd Cân i Gymru 2024.

Cafodd Ti gan Sara Davies o Landysul ei ddewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru ar S4C heno (1 Mawrth) yn fyw o Arena Abertawe.

Cân serch gan Daid Sara i'w Nain yw 'Ti'. Mi ysgrifennodd ei Thaid geiriau'r gân cyn iddo farw, ac ar ôl ei golli, mi aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.

Yn wreiddiol o Hen Golwyn, mae hi bellach yn byw yn Llandysul ac yn athrawes Cerddoriaeth, Drama a Lles yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron.

Ac mewn noson emosiynol i Sara a'i theulu, meddai:

"Dwi'n speechless! Fydd yr arian yn mynd tuag at ganu, gobeithio, a rhyddhau mwy o ganeuon."

Meddai Elin Fflur:

"Llongyfarchiadau mawr i Sara ar ennill Cân i Gymru 2024!

"Mae hon yn gystadleuaeth arbennig iawn sy'n gallu newid gyrfaoedd. Mae'n uchafbwynt cerddorol ac yn binacl yng nghalendr S4C bob blwyddyn.

"Ac am flwyddyn i ennill – mewn lleoliad newydd gyda thlws newydd sbon hefyd! Llongyfarchiadau mawr – dwi'n edrych ymlaen i weld be ddaw gan Sara yn y dyfodol."

Ar ôl lansio cystadleuaeth eleni ym mis Tachwedd 2023, cyrhaeddodd 118 o ganeuon y beirniaid.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr oedd Cadeirydd panel y beirniaid a bu'n mentora'r cystadleuwyr hefyd.

Y beirniaid oedd y gantores a'r gyfansoddwraig Bronwen Lewis, y DJ a'r cyflwynydd Dom James, y gantores a'r berfformwraig West End Mared Williams a'r cerddor Carwyn Ellis.

Heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.

Mae Sara yn ennill tlws newydd sbon Cân i Gymru a'r wobr o £5,000.

Goleuni gan Steve Balsamo a Kirstie Roberts (wedi'i berfformio gan Moli Edwards) oedd yn ail ac yn ennill gwobr o £3,000 a Cysgod Coed gan Gwion Phillips ac Efa Rowlands ddaeth yn drydydd ac yn derbyn £2,000.

Dyma'r ail a'r drydedd wobr fwyaf yn hanes y gystadleuaeth.

Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2024, ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Cynhyrchiad Afanti Media ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?