S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol newydd

9 Mai 2024

Mae S4C wedi penodi Beth Angell yn Bennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol newydd.

Bydd hi'n dechrau ei rôl gyda'r darlledwr ym mis Mehefin.

Mae Beth yn gynhyrchydd profiadol sydd wedi gweithio fel cynhyrchydd cyfres ac uwch-gynhyrchydd i nifer o gwmnïau teledu blaenllaw Cymru.

Mae ei gwaith yn cynnwys nifer o wahanol genres, gan gynnwys adloniant, comedi a cherddoriaeth, ac yn ddiweddar roedd yn gynhyrchydd cyfres a chyfarwyddwr ar gyfres realiti S4C Tanwen & Ollie.

Bu Beth hefyd yn cynhyrchu cyfresi llwyddiannus Prosiect Pum Mil a Iaith ar Daith, a bu hefyd yn gweithio ar ddarllediadau S4C o Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Mae hi'n cymryd yr awenau gan Elen Rhys sydd wedi penderfynu gadael S4C ym mis Gorffennaf wedi bron i ddegawd yn y rôl.

Dywedodd Beth Angell:

"Mae'n amser cyffrous iawn i fod yn ymuno â'r tîm yn S4C ac rwy'n edrych ymlaen at yr her.

"Yn ystod fy neng mlynedd ar hugain yn gweithio ar raglenni adloniant rwyf wedi dysgu cymaint gan fentoriaid gwych.

"Mae'r mentoriaid yma wedi fy helpu ar fy nhaith i gyrraedd y rôl yma.

"Hoffwn ddiolch i S4C am y cyfle i weithio i ddarlledwr rwy'n ei werthfawrogi a'i barchu cymaint, ac yn gobeithio y bydd fy mrwdfrydedd yn cyfrannu at y diwydiant teledu yng Nghymru."

Dywedodd Geraint Evans Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C:

"Rydym ni yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Beth Angell yn ymuno ag S4C, gan ddechrau ar ei rôl newydd fis nesaf.

"Bydd Beth yn ychwanegiad ardderchog i'r tîm comisiynu, ac mae hi'n dod â chyfoeth o brofiad a syniadau creadigol gyda hi.

"Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Elen Rhys am ei chreadigrwydd, ei hangerdd a'i hymroddiad i'r rôl dros y 9 mlynedd diwethaf, ac rydym yn dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?