S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Triawd rygbi ar y ffordd i Rio

Mae Pennaeth Perfformiad URC, Geraint John wedi croesawi'r ffaith bod tri chwaraewr o Gymru wedi eu dewis i gynrychioli tiamu saith bob ochr Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro. Bydd Sam Cross a James Davies yn rhan o garfan y dynion a Jasmine Joyce yn rhan o garfan y merched.

Mae rygbi yn dychwelyd i'r gemau am y tro cyntaf ers 1924 ac mae John yn credu y bydd dewis y tri o Gymru i fod yn rhan o'r gystadleuaeth yn hwb sylweddol i'r gamp.

"Yn ystod y tymor diwetha roedd yna obaith o gael Cymry'n rhan o'r carfannau ond nawr bod ganddo ni dri sy'n sicr o gystadlu yn ogystal a Luke Treharne sydd ar y rhestr wrth gefn i'r dynion.. mae hynny'n siwr o godi proffil y gem yng Nghymru."

Mae John yn gyn brif hyfforddwr tim saith bob ochr Canada ac yn gyn gyfarwyddwr carfan saith bob ochr Awstralia ac mae e'n gobeithio y bydd datblygiad sydyn Jasmine Joyce yn sbarduno cenehedlaeth newydd i chwarae'r gem

"Mae gem y merched yn datblygu – Mae Jas yn athletwraig – a gobeithio y bydd ei pherfformiadau yn Rio yn ysbrydoli marched fel y bydd ganddo ni dwy neu dair neu fwy yn rhan o'r garfan yng ngemau Tokyo ymhen pedair blynedd."

"Ac mae'r un peth yn wir am gem y dynion hefyd...mae e'n rhan o'r llwybr datblygu sy'n galluogi chwaraewyr i feithrin eu sgilau ar gyfer y gem 15 dyn yn ogystal. Mae e'n dyst i ymroddiad y chwaraewyr ac i gefnogaeth eu teuluoedd eu bod nhw'n cael eu cydnabod fel hyn.

Dim ond deuddeg lle sydd ym mhob carfan felly mae'r gystadleuaeth am lefydd wedi bod yn frwd ac mae hynny'n golygu bod y wobr o fedal yn bosib ar ddiwedd y daith,

"Gyda chwaraewyr o Loegr yr Alban a Chymru'n rhan o'r paratoadau mae'r dasg o gael y garfan i asio wedi bod yn anodd a bydd ysbryd y garfan oddi ar y cae yn ogystal a'u gallu i gydweithio ar y cae yn factor hollbwysig," meddai.

Mae cystadleuaeth y merched yn cychwyn ar Awst 6ed a chystadleuaeth y dynion ar Awst 9fed yn Stadiwm Deodoro.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?