S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Gwawr Newydd i Garfan y Springboks

Bydd y Springboks yn cyrraedd Caerdydd ar gyfer gêm olaf Cyfres Under Armour yr Hydref 2016 heb rai o'u chwaraewyr gorau dros y degawd diwethaf.

Mae 10 o'r 23 a lywiodd De Affrica heibio Cymru a 'mewn i rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd ar goll o'r garfan 34-dyn fydd yn teithio i'r gemau rhyngwladol y mis hwn.

Ac un o'r chwaraewyr na fydd ymhlith y garfan eleni yw'r gwr a sgoriodd cais wedi 74 munud er mwyn neilltuo tim Sam Warburton o Gwpan y Byd yn Twickenham y llynedd, sef y mewnwr Fourie du Preez. Chwaraewyr eraill na fyddant ar y daith yw Handre Pollard, triawd y rheng ôl Francois Louw, Schalk Burger a Duane Vermeulen, a'r bachwr Bismarck du Plessis.

Ymddeolodd Du Preez o rygbi rhyngwladol ar ddiwedd Cwpan y Byd, wedi wyth buddugoliaeth allan o wyth gêm yn erbyn Cymru. Dyna hefyd yw hanes chwaraewr rheng ôl presennol Saracens Burger, Mae Louw a Du Preez wedi derbyn anafiadau, a 'doedd Vermeulen a Pollard ddim ar gael ar gyfer y daith. Chwaraewyr eraill sy'n colli'r daith, ac a oedd hefyd yn Twickenham ar gyfer chwarateri Cwpan y Byd yw'r propiau Frans Malherbe a Jannie du Plessis, Ruan Pienaar a Jan Serfontein.

Mae Nizaam Carr a'r prop Lourens Adriaanse wedi cael eu cynnwys yng Ngharfan y Springboks fel eilyddion i Jaco Kriel a Jannie du Plessis.

Ond mae digon o enwau cyfarwydd yn y criw sy'n teithio, gan gynnwys y ddau asgellwr Bryan Habana a JP Pietersen. Gallan nhw frolio iddynt ennill 192 o gapiau a sgorio 90 o geisiau mewn gemau prawf yn ogystal ac ennill rhyngddynt 18 o'u gemau yn erbyn Cymru.

Bydd y ' Beast', sef y prop pen-rhydd Tendai Mtawarira, yn ôl i roi Samson Lee o dan bwysau yn y sgrym, tra bydd Eben Etzebeth a Lood de Jager yn ymladd am eu safleoedd yn yr ail reng gyda Pieter-Steph du Toit .

CARFAN Y SPRINGBOKS AR GYFER CYFRES UNDER ARMOUR YN ERBYN CYMRU Olwyr: Jesse Kriel (Blue Bulls - 17 o gapiau) Willie le Roux (Eagles Canon - 39 o gapiau)

Asgellwyr: Ruan Combrinck (Golden Lions - 4 o gapiau) Bryan Habana (Toulon, Ffrainc - 123 o gapiau) Sergeal Petersen (Free State Cheetahs - heb ennill cap) JP Pietersen (Leicester Tigers - 69 o gapiau)

Canolwyr: Damian de Allende (Western Province - 20 cap)Johan Goosen (Rasio 92-10 cap) Lionel Mapoe (Golden Lions / Kubota Spears - 9 o gapiau) Francois Venter (Free State Cheetahs - heb ennill cap)

Haneri: FAF de Klerk (Golden Lions - 8 o gapiau) Elton Jantjies (Golden Lions / NTT Communications - 9 o gapiau) Pat Lambie (Sharks - 53 o gapiau) Rudy Paige (Blue Bulls - 5 o gapiau) Piet van Zyl (Blue Bulls - 2 o gapiau)

Propiau: Lourens Adriaanse (Sharks - 4 o gapiau) Steven Kitshoff (Bordeaux-Bègles - 7 o gapiau) Vincent Koch (Saracens - 7 o gapiau) Tendai Mtawarira (Sale Sharks - 84 o gapiau) Trevor Nyakane (Blue Bulls - 26 o gapiau)

Bachwyr: Malcolm Marx (Golden Lions - 1 cap) Bongi Mbonambi (Western Province - 3 o gapiau) Adriaan Strauss (Blue Bulls - 63 o gapiau, Captain)

Cloeon: Lood de Jager (Free State Cheetahs - 25 o gapiau) Pieter-Steph du Toit (Western Province - 17 o gapiau) Eben Etzebeth (Western Province - 53 o gapiau) Franco Mostert (Golden Lions / Ricoh Rams Black - 4 o gapiau)

Rheng Ôl: Willem Alberts (Stade Français Paris - 41 o gapiau) Nizaam Carr (Western Province - 2 o gapiau) Jean-Luc du Preez (Sharks - heb ennill cap) Jaco Kriel (Golden Lions / Kubota Spears - 7 o gapiau) Oupa Mohoje (Free State Cheetahs - 14 o gapiau) Roelof Smit (Blue Bulls - heb ennill cap) Warren Whiteley (Golden Lions / Hurricanes Coch - 12 o gapiau)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?