S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Cyfeiriadedd rhywiol

Os ydych chi efallai gyda cwestiynnau am rhywioldeb eich hunain, ac yn edrych am gyngor neu gymorth, hwn yw'r lle i ddod. Cynigir cymorth yn ogystal i rieni neu aelodau eraill o'r teulu, os maent wedi eu heffeithio gan newid mewn rhywioldeb person agos, neu ble i fynd os ydych yn dioddef homoffobia o unrhyw fath.

  • Stonewall Cymru

    Mae Stonewall Cymru'n fudiad sy'n edrych ar ôl a hybu hawliau lesbiaid , hoywon a phobl ddeurywiol yng Nghymru, ac maent yn gallu rhoi cyngor ar bynciau fel partneriaeth sifil a gwahaniaethu anffafriol. Ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth.

    www.stonewallcymru.org.uk

  • Llinell Gymorth LGBT Cymru

    Mae'r Llinell Gymorth LGBT Cymru yn wasanaeth am ddim i lesbiaid, hoywon, pobl ddeurywiol neu drawsrywiol. Maent yn gallu cynnig help pan mae pobl yn 'dod allan' drwy siarad am y problemau o wneud hyn a rhoi hyder i chi wrth gyfarfod a phobl debyg. Mwy o fanylion cysylltu ar y gwefan.

    0800 917 9996

    lgbtcymru.org.uk

  • Gaywales

    Am fwy o wybodaeth am beth sy'n mynd ymlaen i bobl hoyw yng Nghymru, ewch i wefan Gaywales, sydd hefyd gyda manylion am ba wasanaethau sy'n gyfeillgar i hoywon ar draws y wlad

    www.gaywales.co.uk

  • FFLAG

    Mae FFLAG yn cynnig cefnogaeth i grwpiau rhieni lleol sy'n ceisio dod i ddeall aelodau o'r teulu sy'n lesbiaid, hoywon neu'n ddeurywiol. Maent hefyd yn gweithio ar brosiectau i daclo bwlio yn erbyn hoywon.

    www.fflag.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?