S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Newid Trefn Is-deitlau S4C

Mae'r drefn o isdeitlo rhaglenni S4C wedi newid. Yn dilyn proses dendro ddiweddar, fe fydd dau gwmni yn gyfrifol am baratoi isdeitlau Saesneg ar gyfer swmp helaeth o raglenni S4C.

O'r 27ain o Chwefror 2017 ymlaen, fe fydd cwmni Testun yn gyfrifol am isdeitlo rhaglenni cyffredinol S4C, sy'n cyrraedd o flaen llaw.

Fe fydd cwmni Adnod yn gyfrifol am isdeitlo unrhyw raglenni byw a rhaglenni sy'n cyrraedd yn agos at TX.Hefyd, rydym yn cynyddu'r nifer o isdeitlau Cymraeg fydd ar gael i 8-10 awr o raglenni newydd yr wythnos.Cwmni ITV SignPost fydd yn darparu gwasanaeth arwyddo ar sgrîn i S4C o hyn allan ac fe fydd cwmni CTV yn parhau i ddarparu gwasanaeth sain ddisgrifio.

Fydd dim angen i gwmniau wneud dim – fe fydd S4C yn trefnu copiau ar gyfer Testun, Adnod, Capsiwn, ITV SignPost a CTV ac fe fydd y cwmniau hyn yn anfonebu S4C yn uniongyrchol. Os ydych chi'n cynhyrchu rhaglenni byw neu raglenni sy'n cyrraedd yn agos at TX, mae'n bosibl y bydd Adnod yn cysylltu â chi i weld os bod modd derbyn unrhyw ddeunydd o flaen llaw.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y newidiadau hyn, mae croeso i chi gysylltu â Meleri Wyn Flint, Cydlynydd Gwasanaethau Mynediad ar 02920 741207 neu meleri.wyn.flint@s4c.cymru.

Er gwybodaeth, fe fydd Ericsson yn parhau i isdeitlo unrhyw raglenni sy'n cael eu cynhyrchu gan y BBC i S4C, ac fe fydd Tinopolis yn parhau i isdeitlo unrhyw raglenni byw sy'n cael eu cynhyrchu ganddyn nhw.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?