S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 3: 'c' Cerddorfa Cyw

Mae 'na sŵn hyfryd yn dod o'r Cywiadur heddiw. Cyw, Plwmp a Deryn sydd yno ac maen nhw'n canu'n swynol iawn. Mae Jim yn credu y gallan nhw, fe a Jen ffurfio côr i ganu yn yr eisteddfod.

Gwneir defnydd o gliwiau gweledol wrth gyflwyno'r lythyren 'c' – cyfeirir ati fel siap clust a defnyddir y llaw i greu siap y lythyren yn ogystal. Canolbwyntir ar lythyren gynta'r gair ac annogir y plentyn i 'wrando' ar y dewisiadau o lythyren cyn penu pa un sy'n gywir.

Llafar

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

Dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]

Cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

Adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Ysgrifennu

Adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [ Meithrin]

Defnyddio'r gytsain gychwynol gywir drwy ddechrau defnyddio gwybodaeth ffonig [ Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?