S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Jen a Jim a'r Cywiadur - Pennod 7: 'f' Y Fan Fwyd

Y Fan Fwyd

Mae Cyw a Llew yn gwerthu pysgod a sglodion o fan fwyd ar y traeth. Roedd hi'n mynd yn dda ond, wedi i'r botel finegr ddiflannu, does neb eisiau prynu sglodion! Tybed all Jen a Jim eu helpu i ddod o hyd i'r finegr?

Llythyren gynta'r gair sydd ar goll yn y rhaglen hon, ac wrth i Jen a Jim geisio meddwl pa lythyren yw hi, maent yn annog y plant i wrando os yw'r sŵn y gair yn gwneud synnwyr. Caiff 'f' hefyd ei chyflwyno fel llythyren sydd yn 'cosi'r wefus' – trwy wneud hyn, daw'r ynganiad yn gywir.

Llafar

Cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau [Meithrin]

Siarad yn glywadwy [ Derbyn]

Neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

Cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

Adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Ysgrifennu

Adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [Meithrin]

Gwahaniaethu rhwng llythrennau [Derbyn]

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?