S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bant â’r cwac i sioe Hana

26 Mawrth 2007

 Hana’r hwyaden o gyfres animeiddio newydd sbon S4C, Holi Hana, yw seren sioe newydd i blant sy’n ymweld â deg lleoliad ledled Cymru yr wythnos hon.

Bydd Hana a’i ffrindiau, cyflwynydd Planed Plant Gareth Delve a chymeriadau plant S4C, Dwmplen Malwoden o Pentre Bach a Cliff Ceffyl o Ribidirês, yn cychwyn ar y daith heddiw, 26 Mawrth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Trefnir y sioe gan Twf, cynllun sy’n annog rhieni i gyflwyno’r Gymraeg i’w plentyn gartref, gyda chefnogaeth S4C. Mae croeso cynnes i rieni a neiniau a theidiau i ddod â’u plant – yn fabanod a phlant oed meithrin – i’r sioe, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim. Bydd swyddogion Twf wrth law ym mhob sioe i gynnig cyngor a chefnogaeth.

Darlledir Holi Hana am y tro cyntaf ar S4C ar ddydd Llun, 2 Ebrill am 7.00am. Yn y gyfres, a gynhyrchir yng Nghaerdydd gan gwmni Calon, mae Hana a’i chyw, Francis, yn helpu anifeiliaid ifanc i ddatrys ystod o broblemau. Mae’r sioe fyw 25-munud o hyd, sydd â chanu a cherddoriaeth yn rhan ohoni, yn seiliedig ar yr un syniad, gyda Hana yn helpu Gareth a’i chydgymeriadau gyda gwahanol broblemau.

Meddai Meryl Pierce, Swyddog Datblygu Prosiect Twf, “Dyma ffordd arall wych o gyflwyno’r Gymraeg i blentyn mewn ffordd hwyliog, pleserus.”

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Dyma’r pumed flwyddyn i S4C gydweithio â TWF a ry’n ni’n falch iawn i gefnogi gwaith pwysig y mudiad drwy gynorthwyo gyda’r sioe hon. Mae Hana’r hwyaden eisoes wedi creu cryn gynnwrf a bydd hyn yn gyfle i blant bach ledled Cymru i gael blas ar ei chyfres newydd yn ogystal â gweddill arlwy S4C i blant.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Twf ar 01745 585120.

Nodyn i’r golygydd

Mae TWF yn gynllun a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i reolir gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae 20 o swyddogion maes yn gweithio yn agos gyda bydwragedd ac ymwelwyr iechyd ar draws Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth gyda rhieni am fanteision cyflwyno’r Gymraeg ar yr aelwyd.

DYDDIADAU’R DAITH

Dydd Llun, 26 Mawrth

10.00am Canolfan Hamdden Concert Hall, Pen-y-bont

1.30pm Neuadd Gymunedol Gwaun Cae Gurwen

Dydd Mawrth, 27 Mawrth

10.00am Queen’s Hall, Arberth

1.30pm Neuadd Gatholig, Aberteifi

Dydd Mercher, 28 Mawrth

10.00am Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau

1.30pm Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst

Dydd Iau, 29 Mawrth

10.00am Theatr Fach, Pencraig, Llangefni

1.45pm Theatr Elwy, Llanelwy

Dydd Gwener, 30 Mawrth

10.00am Neuadd Dyffryn Trannon, Trefeglwys

1.30pm Canolfan Gymunedol Riverside, Llanfair-ym-Muallt

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?