S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Kath yn gadael y Cwm

28 Rhagfyr 2007

 Mae un o gymeriadau mwyaf poblogaidd a blaenllaw Pobol y Cwm yn gadael yr opera sebon ar ôl 14 blynedd wrth galon holl helyntion pentref dychmygol Cwmderi.

Bydd Kath Jones yn ffarwelio â'r Cwm mewn dwy bennod arbennig o'r ddrama ddyddiol a gynhyrchir gan y BBC, i'w darlledu ar S4C heno (Gwener, 28 Rhagfyr, 8.00pm).

Daw'r ymadawiad annisgwyl yng nghanol cyfnod o ansicrwydd i Kath, gwraig uchel ei chloch. Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi bod mewn cyfyng gyngor ynghylch ei dyfodol ar ôl cael gwahoddiad gan ei chyn-gariad, Johnny Mac i ymuno ag ef i ddechrau bywyd newydd ar y cyfandir.

Hyd yn hyn, mae Kath wedi mynnu aros yng Nghwmderi, i fod yn agos at ei theulu, yn enwedig ei mab, Mark, ei hŵyr Ricky a mab Johnny, Liam. Ond mae hi ar fin newid ei meddwl mewn tro pedol Nadoligaidd dramatig.

Ymunodd Kath Jones, a chwaraeir gan yr actores Siw Hughes, â'r gyfres nôl yn 1993 fel penteulu'r Jonesiaid, teulu oedd yn mynd i gynnig digon o drwbl i'r pentrefwyr eraill.

I ddechrau, roedd Kath yn debyg i'w mab drygionus Mark (Arwyn Davies) ac yn wahanol iawn i'w merch gydwybodol Stacey (Shelley Rees) a’i gŵr caredig, er braidd yn chwit chwat, y diweddar Dyff (Dewi Rhys).

Ond, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae Kath wedi dangos ochr garedig a hael, gan sefydlu ei hun yn un o’r cymeriadau mwyaf poblogaidd yn hanes y ddrama 33 mlwydd oed.

Un peth sy'n anodd ei gredu am y cymeriad, Cymraes o'r gorllewin gydag acen nodweddiadol, yw ei bod yn cael ei phortreadu gan actores o’r gogledd. Daw Siw yn wreiddiol o Langefni a chydnabuwyd ei doniau yn chwarae'r cymeriad pan enillodd wobr Bafta Cymru am yr Actores Orau yn 1995.

Meddai Ynyr Williams, cynhyrchydd Pobol y Cwm, “Mae Kath Jones wedi bod yn un o gymeriadau mwyaf gwreiddiol a hirhoedlog Pobol y Cwm dros y 14 blynedd diwethaf. Mae hi'n haeddu cael ei chofio yn un o’r goreuon - ac mae'n deyrnged iddi hi fel actores ei bod wedi portreadu cymeriad lliwgar mewn ffordd ddiddorol ac argyhoeddedig dros y blynyddoedd. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Siw ar gyfer y dyfodol ac yn gobeithio y caiff hi'r llwyfan y mae ei doniau yn eu haeddu.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?