S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwledd o Rygbi ar S4C

12 Ebrill 2007

Mae gan S4C wledd o rygbi ar eich cyfer dros y penwythnos wrth i bedair gêm fawr gael eu dangos yn fyw ddydd Sadwrn a dydd Sul, 14 a 15 Ebrill.

Bydd yr arlwy gyffrous o gemau byw ar brif raglen rygbi S4C Y Clwb Rygbi yn cynnwys y ddwy gêm gyn-derfynol yng nghystadleuaeth Cwpan Konica Minolta Cymru, gornest o Gynghrair Magners a’r gêm derfynol yng Nghwpan Eingl-Gymreig EDF Energy yn Twickenham.

Bydd y pedair gêm yn cael eu dangos ar blatfform analog a digidol yng Nghymru ac ar Sky sianel 135 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gydag is-deitlau yn Saesneg ar gael.

Ceir y gorau o’r gorllewin yn Y Clwb Rygbi ddydd Sadwrn gyda Llanymddyfri yn herio Llanelli ar faes Talbot Athletic, Aberafan, (o 5.55pm) yn y gyntaf o ddwy gêm yng Nghwpan Cymru rhwng timau yn Uwch-Gynghrair y Prinicipality. Y wobr fydd lle yn y gêm derfynol yn Stadiwm y Mileniwm ar 28 Ebrill.

Cyn hyn am 4.00pm, bydd camerâu Y Clwb Rygbi ym Mharc yr Arfau, Caerdydd ar gyfer gêm bwysig yng Nghynghrair Magners rhwng y Gleision a Chaeredin.

Ar ddydd Sul, 15 Ebrill bydd camerâu yn Twickenham a Heol Sardis, Pontypridd am becyn dwbl cyffrous arall. Yng ngornest fawr y dwyrain, bydd Caerdydd a Phen-y-bont yn cwrdd yn yr ‘House of Pain’ gyda’r tîm o’r brifddinas yn cychwyn fel ffefrynnau'r ail gêm gynderfynol yng Nghwpan Konica Minolta. Ond cyn hynny am 2.00pm, cofiwch ymuno â’r clwb i weld y Gweilch yn ceisio trechu Teigrod Caerlyr yng Nghwpan Eingl-Gymreig EDF Energy yn Twickenham.

Medd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn hynod falch ein bod yn medru dangos pedair gêm fyw dros y penwythnos, ar lefel ranbarthol a lefel y clybiau. Mae angerdd a thraddodiad y Cwpan Cymreig yn dal yng Nghwpan Konica Minolta ac mae’n bleser mawr inni fod wrth galon y cystadlu dros y penwythnos. Ar ben hynny, mae gennym Gynghrair Magners a gêm derfynol EDF Energy felly mae’n benwythnos o sialens i dimau cynhyrchu Y Clwb Rygbi ac yn wledd i’n gwylwyr.”

GEMAU S4C DROS Y PENWYTHNOS

Gleision v Caeredin, Cynghrair Magners

Sadwrn, 14 Ebrill, 4.00pm, S4C, Isdeitlau Saesneg

Llanymddyfri v Llanelli, Gêm gynderfynol Konica Minolta

Sadwrn, 14 Ebrill, 5.55pm, S4C, Isdeitlau Saesneg

Caerlŷr v Gweilch, Gêm derfynol EDF Energy

Sul, 15 Ebrill, 2.00pm, S4C, Isdeitlau Saesneg

Caerdydd v Pen-y-bont, Gêm gynderfynol Konica Minolta

Sul, 15 Ebrill, 4.30pm, S4C, Isdeitlau Saesneg

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?