S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio rhaglenni’r Flwyddyn Newydd

10 Ionawr 2011

  Mae S4C heddiw (Dydd Llun, 10 Ionawr) yn datgelu rhai o uchelfannau’r amserlen ar gyfer 2011 gyda’r pwyslais ar ddrama o ansawdd uchel, digwyddiadau byw, chwaraeon cyffrous a dogfennau pwerus.

Mae S4C yn lansio’r Flwyddyn Newydd gydag ymgyrch rymus ar y sgrin o dan yr enw S4C - Calon Cenedl - a bydd straeon o galon cymunedau Cymru yn ganolog i amserlen 2011.

Ymhlith yr uchafbwyntiau ar gyfer 2011 fydd y gyfres newydd afaelgar ar gyfer nosweithiau Sul gan yr awdur llwyddiannus Siwan Jones, taith y naturiaethwr Iolo Williams i gwrdd â llwythau Indiaid America a’r gyfres sy’n dilyn dau o gymeriadau’r byd rygbi, Shane Williams a Derwyn Jones wrth iddynt hyfforddi tîm ieuenctid o orllewin Cymru.

Meddai Prif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen: “Fe wnaeth bron 1.5 miliwn o wylwyr droi i mewn i wylio rhaglenni digwyddiadau byw'r Sianel y llynedd a’r bwriad yw adeiladu ar y llwyddiant yma yn 2011 gyda hyd yn oed fwy o ddigwyddiadau ar y sgrin. Mae ymchwil yn dangos bod gwylwyr yn werthfawrogol iawn o S4C fel sianel sy’n rhoi sylw i’w bröydd nhw a byddwn yn parhau i ddarlledu rhaglenni o galon ein cymunedau.

“Yn dilyn llwyddiant ysgubol nifer o’n cyfresi drama yn ddiweddar, bydd S4C yn cynnig mwy fyth o ddrama wreiddiol, herfeiddiol, yn arbennig yn y slot poblogaidd ar nos Sul am 9pm.”

Fe enillodd y dramodydd Siwan Jones wobr fawr y Rose d’Or am ei chyfres ddiwethaf ar S4C, Con Passionate ac ar nos Sul, 23 Ionawr, bydd y gyfres ddrama rymus Alys yn dechrau, Dyma stori am fam sengl sy’n fodlon gwneud unrhywbeth bron er mwyn gweld ei mab ifanc yn gwireddu ei freuddwyd o fod yn ddyn gofod.

Ymhlith y cyfresi drama eraill ar gyfer nos Sul ar S4C fydd Porth Penwaig, drama deulu a leolir ym Mhen Llŷn am hynt a helynt pobl sy’n rhedeg tafarn glan môr a gwesty bach. Yn ddiweddarach eleni, cawn ddilyn Gwaith Cartref, drama liwgar am griw o athrawon yn eu gwaith a’u horiau hamdden.

Bydd y cyfresi dogfen eleni yn cynnwys Iolo ac Indiaid America (Mercher, 12 Ionawr) sy’n dilyn y naturiaethwr Iolo Williams yn cwrdd â llwythau Gogledd America a 100 Lle (Mawrth, 11 Ionawr) pan fydd Aled Samuel a’r hanesydd Dr John Davies yn dangos 100 lle y dylech ei weld cyn marw.

Ym mis Chwefror, bydd yr arwyr rygbi Shane Williams a Derwyn Jones yn cymryd yr awenau yn nhîm ieuenctid Amman United yn Clwb Rygbi Shane, tra bydd y garddwr egnïol Russell Jones yn teithio i Affrica i weld sut mae pobl yn tyfu cnydau a chadw anifeiliaid yn y gyfres Byw yn y Byd.

Bydd S4C yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen sy’n ceisio darganfod sut oedd Owain Glyndŵr yn edrych. .Yr actor Julian Lewis Jones sy’n mynd ar drywydd yr ymchwil gan droi at y dechnoleg ddiweddara’ i ail-greu wyneb yr arwr cenedlaethol.

Mae chwaraeon yn amlwg yn yr amserlen, ac un o’r uchafbwyntiau fydd y darlledu byw o gemau pêl-droed cystadleuaeth newydd Cwpan Carling y Cenhedloedd rhwng Cymru, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Alban.

Bydd arlwy fyw ac uchafbwyntiau o gystadlaethau rygbi'r Chwe Gwlad, Cwpan Heineken a Chynghrair Magners, gyda chystadleuaeth ugain pelawd criced y Twenty20 yn dychwelyd wrth i S4C ddilyn hynt tîm Morgannwg.

Yn ogystal â’r darlledu byw o ddigwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Frenhinol, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yr Eisteddfod Genedlaethol a llu o ddigwyddiadau eraill, bydd S4C yn canolbwyntio hefyd ar ddigwyddiadau cymunedol pan fydd cyflwynwyr a chyfranwyr yn ymweld â sefydliadau, grwpiau a chymdeithasau i hyrwyddo gwasanaethau ledled Cymru.

Ym mis Ionawr, bydd S4C yn ymweld â chymunedau ym Mangor, Bethesda, Bae Colwyn, Aberhonddu, Castellnewydd Emlyn, Pontypridd, Llandeilo a Blaenafon.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?