S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cywair yn ennill Côr Cymru 2007

01 Mai 2007

Côr Cymysg Cywair o Gastell Newydd Emlyn yw’r buddugwyr yng nghystadleuaeth S4C, Côr Cymru 2007 wedi iddynt gipio’r teitl neithiwr (Nos Sul, 29 Ebrill) yn Neuadd y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Yn y rownd derfynol a ddarlledwyd yn fyw ar S4C ac S4C digidol ac a gyflwynwyd gan Nia Roberts a Gareth Owen, derbyniodd Cywair siec am £5,000 a thlws gan Gadeirydd S4C, John Walter Jones, a hynny yn ychwanegol i’r wobr o £2,000 yr oeddent eisoes wedi ei sicrhau drwy gyrraedd y rownd derfynol.

Y corau eraill yn y rownd derfynol oedd Côr y Drindod, Caerfyrddin (Côr Ieuenctid), Côr Meibion Fflint (Côr Meibion) a Chôr Iau Glanaethwy o ardal Ynys Môn a Gwynedd (Côr Plant).

Ffurfiwyd Cywair bum mlynedd yn ôl gan Islwyn Evans a enillodd Côr Cymru gyda Chôr Ysgol Gerdd Ceredigion ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth yn 2003. Enillodd Cywair gystadleuthau tramor eisoes ac hefyd gystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2005.

Yn y gystadleuaeth neithiwr, perfformiodd y côr ifanc raglen heriol o ganeuon gan gyfansoddwyr o’r Almaen, Ffrainc a Slovakia a chyfiethiad Emyr Davies, aelod o’r côr, o gyfansoddiad Mike Brewer, ‘Ti yw’r Haul’. Perfformiwyd eitemau o waith Mendelssohn, Poulenc, Eric Whitacre, Brewer a Hrusovsky.

Llwyddodd eu perfformiad i blesio’r panel rhyngwladol o feirniaid a oedd yn chwilio am amrywiaeth cerddorol, cywirdeb technegol ac angerdd yng nghyflwyniad pob un o’r corau.

Ar ran ei gyd-feirniaid, André Van der Merwe o Dde Affrica a Vasily Petrenko o Rwsia, cyhoeddodd Huw Williams, is-organydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain, eu bont wedi gwrando ar bedwar côr arbenning iawn, ond bod dau yn rhagori.

Roedd arweinydd Cywair, Islwyn Evans wedi ei blesio’n fawr gan berfformiad ei gôr. “Roedd y rhaglen yn un heriol iawn ac fe deimlodd bob aelod o’r côr wres ei draed,” meddai. “Roedd yn gystadleuaeth ddeinamig a roedd y profiad o ennill yn dod â’r un faint o bleser ag ennill Côr y Byd yn Llangollen.”

Mari Pritchard, arweinydd Côr Ieuenctid Môn, enillodd y teitl Prif Arweinydd, categori newydd yn Côr Cymru. Derbyniodd siec am £1,000.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?