S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Steve Balsamo ac Ynyr Roberts yn ennill Cân i Gymru 2011

06 Mawrth 2011

Steve Balsamo ac Ynyr Roberts yw’r cyfansoddwyr sydd wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2011 gyda'r gân, Rhywun yn Rhywle.

Mae Steve ac Ynyr wedi ennill gwobr gwerth £7,500 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon eleni. Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol.

Meddai Ynyr, o Benisa’r Waun ger Caernarfon, “Yn sicr roedd hi’n noson gofiadwy i’r tri ohonom ni. Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i bawb wnaeth bleidleisio ac i’r ymateb positif i ‘Rhywun yn Rhywle’. Mae cystadleuaeth Cân i Gymru yn golygu gymaint imi ac mae ennill wedi bod yn uchelgais ers amser.

“Roedd cael cyd-weithio gyda Steve yn brofiad hefyd. Roedden ni’n gweithio gyda’n gilydd yn reit dda dwi’n meddwl. Pan ddaeth Steve ata i gyda’r alaw, roedd yn dyheu am eiriau oedd yn cynnig gobaith i bobl. Prif neges y gân yw peidio rhoi’r gorau i ddilyn dy freuddwyd a chadw ffydd.”

Mae hon yn neges sy’n agos at galon Ynyr gan mai dyma’r trydydd tro iddo gystadlu yn Cân i Gymru.

“Mae’r fuddugoliaeth eleni’n fwy o beth oherwydd roedd safon y cystadlu’n uchel iawn. Buasai pob un wedi bod yn enillwyr teilwng. Rydan ni wedi byw hefo’r gân ers misoedd bellach ac roedd yn deimlad anhygoel i glywed clod a chanmoliaeth y beirniad a chael gweld ymatebion eraill i’r gân,” ychwanega Ynyr, sy’n canu gyda’r grŵp Brigyn.

Meddai Steve, sy’n wreiddiol o Abertawe, “Oherwydd llais arbennig a phwerus Tesni, roedd yn her imi ac i Ynyr greu rhywbeth oedd yn fawr ac yn gyffrous. Heb os nac oni bai, hi oedd y person gorau inni gael yn canu a hyrwyddo’n cân.”

Mae Steve fwyaf adnabyddus am chwarae’r brif ran yn y ddrama gerdd Jesus Christ Superstar ac mae wedi cefnogi Elton John ar ei gylchdaith Ewropeaidd gyda’r band The Storys.

Mae’n mynd i fod yn gyfnod prysur iawn i’r tîm cyfansoddi newydd. Mae’r tri eisoes yn bwriadu cyd-weithio ar brosiectau eraill ac yn Ebrill byddant yn teithio i Kerry yn Iwerddon pan fydd ‘Rhywun yn Rhywle’ yn cystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Yn yr ail safle ac yn ennill £2,000 oedd Osian Rhys Roberts gyda'r gân Cofia am y Cariad. Gai Toms ddaeth yn drydydd gan gipio'r wobr o £1,000 gyda’r gân, Clywch.

Elin Fflur a Dafydd Du oedd yn cyflwyno’r gystadleuaeth yn fyw o Bafiliwn Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.

Gallwch lawrlwytho’r gân fuddugol, yn ogystal â holl ganeuon y rownd derfynol, o wefan iTunes.

Bydd cyfle arall i fwynhau holl gyffro’r gystadleuaeth, yr wyth cân yn eu cyfanrwydd a pherfformiad arbennig gan Rhydian Roberts ar nos Wener 11 Mawrth am 22:40.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?