S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Plant ysgol o Ruthun yn ‘byrstio’ record swigen y byd

21 Mehefin 2007

Bydd plant o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun yn gosod record byd newydd Guinness am y nifer fwyaf o bobl mewn swigen yn rhaglen wyddoniaeth/adloniant i blant ar S4C Atom ddydd Gwener 22 Mehefin am 4.25pm.

Torrodd y grŵp o 35 o blant o Flwyddyn 7,8 a 9 y record flaenorol o 26 a osodwyd gan artist swigod o Ganada, Ana Yang.

Trefnwyd yr orchest gan gynhyrchwyr Atom, Cwmni Da, y cwmni oedd wrth gefn y digwyddiad Jones Jones Jones fis Tachwedd diwethaf a osododd Record Byd Guinness am y casgliad mwya’ o bobl o’r un enw dan yr un to.

Llwyfannwyd a ffilmiwyd camp y swigen yng Ngholeg Llysfasi, Wrecsam. Safodd y plant yng nghanol cafn a ddyluniwyd yn bwrpasol, tra defnyddiwyd cylch mawr i greu’r swigen o’u hamgylch.

Ymhlith y rhai fu yno’n dyst i’r digwyddiad oedd Raymond Bartley, is-gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych a Morfudd Jones, aelod o Gyngor Tre’ Rhuthun. Cyflwynir Atom gan Alun Williams, sy’n cael cwmni Dr Robyn Wheldon Williams, athro cemeg yn Ysgol Brynhyfryd, fel ymgynghorwr gwyddonol y gyfres ymhob rhaglen.

Meddai Neville Hughes, uwch gynhyrchydd Atom, “Yn bendant, rydan ni wedi dal y chwilen torri record yma ac mae’n rhoi boddhad mawr i ni gael dilyn Jones Jones Jones gyda’r record newydd hon.”

Dilyswyd y record eisoes gan Recordiau’r Byd Guinness.

Diwedd

Nodyn i’r golygydd

Yn unol â rheolau Recordiau’r Byd Guinness, roedd yn rhaid i bawb a gymrodd ran fod dros 5’ mewn taldra ac i gadw eu traed ar y llawr drwy gydol yr ymdrech.

Llun

Dr Robyn Wheldon Williams (chwith) ymgynghorydd gwyddonol ac Alun Williams, cyflwynydd Atom, yn tystio 35 o blant Blwyddyn 7, 8 a 9 o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun yn gosod record newydd Recordiau’r Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl mewn swigen.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?