S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Celf ar y teledu

07 Awst 2007

Bydd panel o arbenigwyr yn cwrdd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau er mwyn trafod cynrychiolaeth Celf Gymreig ar y teledu. Mae’r drafodaeth, ‘Byd o Liw: Darlledu Celf Cymru’ yn cael ei gynnal ar Ddydd Mawrth, 7ed Awst yn y Lle Celf, pafiliwn celf a chrefft yr Eisteddfod.

Yn cadeirio’r sesiwn fydd cyflwynydd Byd o Liw, Osi Rhys Osmond, sy’n cymryd seibiant o ffilmio Lliwiau, cyfres sy’n dehongli ystyr lliw, er mwyn ychwanegu ei lais ef at y ddadl. Bydd croestoriad o ffigyrau blaenllaw y byd celf yng Nghymru yn ymuno ag Osi, gyda phob un ohonynt yn cyfrannu persbectif unigryw.

Ar y panel bydd yr artistiaid Mary Lloyd Jones ac Elin Huws, sydd wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu, a hefyd Dylan Huws sydd wedi dod â chelf i’r sgrin fach am 10 mlynedd fel cynhyrchydd Sioe Gelf a Croma. Bydd cyn Gymraes y Flwyddyn, Dr Olwen Williams hefyd yn cymryd rhan. Fel cefnogwr artistiaid blaengar a mentrus, ac yn gyn aelod o fwrdd llywodraethu BBC Cymru, hi fydd yn cynrychioli barn y gynulleidfa yn y drafodaeth.

Bydd y panel yn trafod nifer o bynciau llosg y byd celf, gan gynnwys dylanwad teledu ar artistiaid, ac esiamplau drwg a da o gynrychiolaeth celf ar y teledu. Bydd y ddadl, a drefnwyd ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol ac S4C, hefyd yn gofyn pa argraff o artistiaid a’r byd celf mae teledu wedi cynning hyd hyn, a a oes yna dueddiad i raglenni osgoi'r gwaith anoddach o ddehongli, beirniadu a herio artistiaid.

Bydd y drafodaeth hefyd yn edrych ymlaen at ddyfodol darlledu celf. Gyda datblygiadau cyffrous yn y maes, fel lansiad sianel teledu y galeri Tate, bydd y panel yn gofyn, beth all S4C a’r cyfryngau wneud i sicrhau bod dyfodol darlledu celf yn newydd, gwreiddiol a ffres?

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?