S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodi Uwch Swyddog Cyfathrebu newydd i swyddfeydd S4C yn y Gogledd

01 Hydref 2007

Penodwyd John Kendall i rôl newydd Uwch Swyddog Cyfathrebu swyddfa S4C yng Nghaernarfon.

Mae gan John, sydd yn byw yn Y Felinheli, brofiad helaeth o faes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.

Mae’n gyn Reolwr Strategaeth Cyfathrebu, Cysylltiadau Corfforaethol i gwmni Michelin Tyre plc. Yn y swydd honno, bu’n gyfrifol am reoli digwyddiadau sylweddol a chysylltiadau rhyngwladol yn ogystal â chynrychioli’r cwmni ar amryfal bwyllgorau a gweithgorau.

Treuliodd gyfnodau yn gweithio yn Efrog Newydd ac yn Sweden fel golygydd ac ysgrifennwr. Dechreuodd ei yrfa gyda Phapurau Newydd Gogledd Cymru.

Yn fwy diweddar bu John yn gweithio fel Swyddog Marchnata, Cysylltiadau Strategol i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Mae’n ymuno â’r Sianel o Gyfadran Datblygu Cyngor Gwynedd.

Yn ei rôl newydd bydd John yn gyfrifol am adeiladu ar bresenoldeb S4C yng Ngogledd Cymru, hyrwyddo S4C drwy’r wasg a chyfryngau eraill, a rhoi cefnogaeth i ymgyrchoedd marchnata allweddol.

Meddai Huw Rossiter, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Bydd profiad eang John yn gaffaeliad i S4C wrth i ni ddatblygu proffeil y Sianel yn y byd digidol. Edrychwn ymlaen at ei groesawu i’r swyddfa yng Nghaernarfon.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?