S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Lleisio barn am S4C a'r byd darlledu

19 Medi 2007

Bydd panel o uwch swyddogion S4C yn bresennol yn Neuadd Goffa Aberaeron heno (nos Fercher 19 Medi) o 7.00pm ymlaen i glywed barn pobl yr ardal am y Sianel.nnBydd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, y corff sy'n goruchwylio'r Sianel, yn ymuno â'r Cyfarwyddwr Comisynu, Rhian Gibson i ateb cwestiynau.nnCynhelir y Noson Gwylwyr ar amser pwysig i'r byd darlledu. Mewn llai na dwy flynedd bydd y newid i deledu digidol yn digwydd ac mae technolegau newydd yn chwyldroi'r ffordd mae pobl yn mwynhau eu hoff raglenni.nnMae S4C eleni yn dathlu ei phen-blwydd yn bump-ar-hugain oed, ac ymhlith uchafbwyntiau'r hydref ar y Sianel fydd darllediadau helaeth o bencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd, cyfres goginio newydd Dudley Newbury, Casa Dudley, a'r gyfres ddrama herfeiddiol, Y Pris.nnMeddai John Walter Jones, Cadeirydd S4C, "Mae gwrando ar farn y cyhoedd yn bwysig i ni a chyfarfod pobl wyneb-yn-wyneb yw'r ffordd orau i fesur barn a chael y darlun cyflawn.”nnDarperir lluniaeth ysgafn yn y cyfarfod; bydd gwasanaeth cyfieithu hefyd ar gael. Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.n

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?