S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cytundeb newydd i ddarlledu pêl-droed Cymru

31 Awst 2007

 Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru ac S4C heddiw wedi cyhoeddi cytundeb pedair blynedd newydd sy’n rhoi’r hawliau teledu daearol i S4C ar gyfer pêl-droed ryngwladol a domestig tan 2012. Bydd y cytundeb newydd yn dechrau yn nhymor 2008/09.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd S4C â’r hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau ecsgliwsif o gêmau cartref Cymru, gan gynnwys Rowndiau Rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2010 a Phencampwriaeth Ewrop 2012. Mae’r cytundeb yn cynnwys gêmau byw a phecynnau uchafbwyntiau ar gyfer Uwchgynghrair Cymru’r Principality a Chwpan Cymru.

Daw’r cytundeb hwn wrth i S4C gyhoeddi ei bod wedi sicrhau’r hawliau ecsgliwsif i ddangos y gêm ragbrofol Euro 2008 rhwng Cyprus a Chymru. Darlledir y gêm yn fyw ar S4C o Stadiwm y GSP, Nicosia ar 13 Hydref (17.15 BST).

Meddai David Collins, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ”Yn dilyn y llwyddiant o ddarlledu uchafbwyntiau gêmau rhyngwladol Cymru a’r arlwy ardderchog o Uwchgynghrair Cymru a Chwpan Cymru dros y tair blynedd diwethaf, mae’r Gymdeithas Pêl-droed yn falch ein bod yn gallu parhau ein partneriaeth gydag S4C dros gyfnod 2008- 2012. Bydd y cytundeb newydd yn darparu arlwy sylweddol o Gwpan Cymru ac Uwchgynghrair Cymru, ynghyd ag uchafbwyntiau gêmau rhyngwladol Cymru ar deledu daearol.”

Dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r cytundeb newydd gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru yn caniatau i S4C ymestyn ein hymroddiad i bêl-droed Cymru trwy ddarparu gêmau rhyngwladol a domestig yn rhad ac am ddim. Rydym yn falch iawn y bydd pêl-droed yn parhau’n rhan o bortffolio chwaraeon sylweddol S4C.”

Fe fydd S4C yn cynnig cytundeb cynhyrchu ar gyfer darpariaeth bêl-droed S4C trwy’r broses dendro.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?