S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llond sach o adloniant dros y Nadolig ar S4C

07 Rhagfyr 2007

 Ffilm animeiddiedig newydd wedi’i seilio ar chwedl Gelert, ci ffyddlon y tywysog Llywelyn Fawr a arbedodd mab ei feistr rhag blaidd rheibus, yw un o atyniadau mawr arlwy wylio Nadolig 2007 ar S4C.

Darlledir y ffilm 30-munud o hyd 2D Gelert, yr animeiddiad cyntaf erioed o’r chwedl enwog, ar Ddydd Nadolig ar S4C. Ymhlith y sêr sy’n lleisio’r prif gymeriadau mae John Ogwen, Lowri Steffan a Tudur Owen; bleiddgi Gwyddelig sy’n cyfarth yn enw Gelert.

Hefyd ar Ddydd Nadolig, bydd Cha Cha Gethin yn dilyn hynt a helynt cyflwynydd Blue Peter, Gethin Jones yn cystadlu yn y gyfres ddawnsio boblogaidd Strictly Come Dancing.

Yn y cyngerdd Gala Dennis a Kiri ar S4C ar 30 Rhagfyr, cawn weld y tenor byd-enwog Dennis O’Neill ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru gyda’r Fonesig Kiri Te Kanawa ar gyfer gwledd o opera i ddathlu pen-blwydd y maestro yn 60 oed.

Cawn ddathlu pen-blwydd arall ar Ddydd Nadolig yn Dafydd Iwan ac Ar Log – 25 - Y Briodas Arian wrth gofio am daith gyntaf y canwr bytholwyrdd a’r grŵp gwerin. Mae’r diweddar Ray Gravell yn ymddangos ar y llwyfan yn y cyngerdd a recordiwyd yn gynt eleni ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Fflint a’r Cyffiniau yn yr Wyddgrug.

Fe fydd digon o ganu soniarus yn Carolau o Langollen o Bafiliwn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar 20 Rhagfyr, tra darlledir rhifyn Nadoligaidd o’r gyfres canu mawl Dechrau Canu Dechrau Canmol ar 23 Rhagfyr.

Ymhlith y rhaglenni ffeithiol ar S4C mae’r gyfres ddogfen dair rhan Dai yn y Dŵr, sy’n dechrau ar Ddydd San Steffan. Yn enwog am gyfresi fel Cefn Gwlad a Rasus, bydd Dai yn mentro o’r tir mawr i wynebu ei her fwyaf erioed – dysgu nofio.

Fel y gŵyr pawb, mae’r cyflwynydd poblogaidd yn ofn dŵr, ac ar ôl ymdrechu’n nerfus i’r dŵr yn Aberystwyth, mae’n hedfan i’r Aifft i weld a all dyfroedd hallt y Môr Coch helpu ei gadw ar wyneb y dŵr .

Mae Bois Parc Nest ar 23 Rhagfyr yn ddogfen afaelgar am deulu a gynhyrchodd y tri bardd adnabyddus, T. James (Jim) Jones, John Gwilym Jones ac Aled Gwyn. Wrth ymweld eto â’u hen fferm deuluol, Parc Nest yng ngorllewin Cymru mae’r brodyr yn trafod dylanwad eu rhieni a’u hen aelwyd ar eu gwaith llenyddol.

Bydd y plismon digri PC Leslie Wynne yn lansio ei sioe siarad ar Ŵyl San Steffan, tra bydd yna rifynnau Nadoligaidd o sioeau adloniant Cadair Fawr Eleri Siôn a Pws yn ogystal â phenodau arbennig o Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, a rhifyn arbennig o

Mastermind Cymru pan fydd sêr Cymru yn mentro i’r gadair ddu.

Bydd S4C yn darparu digon o chwaraeon dros yr ŵyl hefyd, gan gynnwys darllediad byw o un o uchafbwyntiau’r tymor rygbi, y gêm rhwng y Sgarlets a’r Gweilch ar Barc y Strade ar 27 Rhagfyr.

Cynigir digon o uchafbwyntiau hefyd ar Planed Plant Bach a Planed Plant, gan gynnwys y gyfres animeiddiedig Holi Hana a sioe flynyddol arbennig y gyfres Uned 5, Gwobrwyo’r Goreuon, pan fydd gwylwyr S4C yn pleidleisio dros eu hoff sêr.

Ar Ddydd Calan, bydd ditectif enwocaf Cymru yn dechrau antur newydd yn y ddrama S.O.S. Galw Gari Tryfan, tra ym mis Ionawr, cawn ddilyn y mynyddwr a’r anturiaethwr

Eric Jones wrth iddo gyflwyno gwylwyr i fynyddoedd a phobl yr Alpau yn y gyfres ddogfen Alpau Eric Jones.

Ar 2 Ionawr bydd Poncho Mam-gu yn olrhain hanes ‘Nel Fach y Bwcs’, mam-gu'r actores a’r awdur Eiry Palfrey, a fu’n byw ym Mhatagonia. Mae’r gyfres ddrama newydd Teulu, a leolir yn Aberaeron, hefyd yn dechrau ym mis Ionawr 2008.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae’r pwyslais yn sicr ar adloniant dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae’r dewis o raglenni - o animeiddio i gerddoriaeth, drama, rhaglenni dogfen a chwisus - yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?