S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn hwb i economi Cymru

10 Hydref 2007

Mae gweithgareddau S4C yn cynhyrchu rhagor na 2,250 o swyddi* yng Nghymru, cyfanswm sy’n gyfystyr â £87 miliwn mewn gwerth ychwanegol yn 2006, yn ôl yr adroddiad Effaith Economaidd S4C ar Economi Cymru 2002-2006 a gyhoeddir heddiw.

Gan gyflogi'r hyn sy’n gyfystyr â 177 o swyddi llawn amser**, mae S4C - fel darlledwr sy’n comisiynu - yn cefnogi swyddi ar hyd a lled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn y sector cynhyrchu annibynnol, maes lle mae sgiliau arbennig a thechnoleg yn holl bwysig a sector a ystyrir yn un o dwf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r adroddiad yn disgrifio S4C fel “sefydliad main dros ben” ac yn dangos sut mae polisiau S4C a’i phenderfyniadau prynu yn cael effaith ar ddiwydiannau creadigol Cymru, gan helpu lleihau’r bwlch perfformiad rhwng economiau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Dywed yr adroddiad, “Nid yw rôl S4C yng Nghymru yn cael ei gyrru’n bennaf gan yr angen i gael effaith gadarnhaol ar economi Cymru, ond i ddiwallu ei gylch gwaith o ran gwasanaeth cyhoeddus, sef cynnig gwasanaethau clyweledol cyfrwng Cymraeg. Serch hynny, mae S4C, trwy ei gweithgareddau, yn effeithio ar yr economi. Mae dros 80 y cant o gyfanswm ei gwariant yng Nghymru ar y sector cynhyrchu annibynnol.”

Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan Awdurdod S4C ac a wnaed gan DTZ gyda chymorth Uned Ymchwil Economi Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dangos sut mae S4C wedi newid ei dull o weithio a chysylltu â’r sector annibynnol ers 2004. Mae S4C wedi datblygu dulliau mwy eglur o gysylltu a thendro, sydd wedi’i gynllunio i annog marchnad gystadleuol, gyda sector cynhyrchu annibynnol iach sy’n deall gofynion S4C.

“Mae rhaglen ddiwygio S4C… yn ceisio ymateb i’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth newidiadau mewn technoleg, deddfwriaeth a’r farchnad. Mabwysiadwyd y dull hwn i sicrhau fod y diwydiannau creadigol yn cwrdd â nod S4C o gael rhagoriaeth greadigol er budd S4C ac i wneud y mwyaf ac i adeiladu ar fanteision masnachol eu cynnyrch mewn unrhyw iaith ac ar bob llwyfan.”

Mae John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, yn croesawu casgliadau’r Adroddiad. Meddai: "Prif rôl S4C yw buddsoddi mewn rhaglenni teledu gwreiddiol o ansawdd uchel. Mae’r Adroddiad hwn yn dangos bod y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru hefyd ac rydym yn croesawu hynna yn fawr.”

Diwedd

* Yn cyfateb i Swyddi Llawn Amser

** Ffigur ar gyfartaledd ar gyfer 2006

• Mae’r adroddiad ar gael yma:

http://www.s4c.co.uk/abouts4c/corporate/c_econrep.shtml

• Darlledwr sy’n comisiynu yw S4C, sy’n comisiynu’r rhan fwyaf o’i rhaglenni gan ffynhonnell sylfaenol o oddeutu 30 o gwmniau cynhyrchu o amrywiol faint ac mewn amryw leoliadau, ond sydd wedi’u lleoli yn bennaf yng Nghymru.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?