S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ysgoloriaeth S4C i Llŷr Williams

28 Tachwedd 2007

Bydd S4C yn cyflwyno ysgoloriaeth arbennig i’r pianydd arobryn Llŷr Williams cyn ei gyngerdd yn Galeri Caernarfon nos Wener, 30 Tachwedd.

Bydd yr ysgoloriaeth yn cynorthwyo Llŷr, sy’n hanu o Rosllannerchrugog ger Wrecsam, i ddatblygu ei yrfa fel pianydd ac arweinydd pianydd o’r radd flaenaf.

Mae Llŷr eisoes wedi dod i’r amlwg fel unawdwr clasurol ac mae galw mawr arno i berfformio i gynulleidfaoedd ledled Prydain a thu hwnt.

Daeth y perfformiwr i’r brig ar S4C yn y rhaglen ddogfen Y Pianydd Llŷr Williams a gynhyrchwyd gan gwmni Opus TF ac a enillodd wobrau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a Bafta Cymru.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i S4C ac i Opus am y cymorth i godi fy mhroffil yng Nghymru yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai Llŷr. “Ac rwy’n falch i barhau i weithio gyda nhw. Mae’n fraint fawr i mi gael y fath gefnogaeth yn gynnar yn fy ngyrfa.”

Bydd yr ysgoloriaeth yn galluogi Llŷr i gysgodi rhai o berfformwyr gorau’r byd ym maes canu piano a derbyn gwersi gan bianyddion sy’n arbenigo mewn perfformio gweithiau cyfoes gan gyfansoddwyr fel Bartok. Bydd Llŷr hefyd yn cael y cyfle i astudio copïau gwreiddiol o lawysgrifau cyfansoddwyr fel Chopin, er mwyn gallu perfformio’r gweithiau mor agos ag sy’n bosibl at y bwriad gwreiddiol.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae ymrwymiad S4C i ragoriaeth greadigol yn cael ei adlewyrchu’n wych wrth gyflwyno ysgoloriaeth arbennig i’r pianydd dawnus Llŷr Williams. Rydym yn falch iawn i gefnogi Llŷr yn ei yrfa ddisglair ac edrychwn ymlaen at barhau ein perthynas agos ag ef.”

Bydd Iona Jones yn cyflwyno’r ysgoloriaeth i Llŷr cyn ei berfformiad nos Wener, sy’n rhan o gyfres o gyngherddau rhyngwladol arbennig a gynhelir yn Galeri. Bydd y perfformiad yn cynnwys gwaith gan Beethoven, Debussy, Schumann a Liszt.

Ar ddiwrnod y gyngerdd, bydd Y Pianydd Llŷr Williams yn cael ei dangos ar sgriniau cyhoeddus yn Galeri.

“'Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda'r ymateb i'r rhaglen,” meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Opus TF. “ Mae gan Llŷr dalent aruthrol ac rydym yn hynod o falch i fod yn cyd-weithio gydag S4C ar ysgoloriaeth arbennig y Sianel ar gyfer Llŷr.”

Meddai Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon: “Mae Llŷr Williams yn artist poblogaidd sy’n ymddangos yn rheolaidd yn Galeri ac mae’n bleser mawr i’w groesawu yma unwaith eto i agor ein ail gyfres o gyngherddau Rhyngwladol A*. Ar ran Galeri, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Opus, S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r noson.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?