S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwpan Rygbi’r Byd dan 20 yn fyw ar S4C

08 Mai 2008

 Bydd S4C yn darparu darllediadau byw eang o Bencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20 y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) a gynhelir eleni yng Nghymru.

Ymysg y gemau a ddarlledir yn fyw ar S4C fydd gemau’r rowndiau cyntaf rhwng Cymru v Ffrainc (Mehefin 14) a Seland Newydd v Iwerddon (Mehefin 10), yn ogystal â’r rownd cyn-derfynol (Mehefin 18), y gêm trydydd safle a rownd derfynol y bencampwriaeth. Bydd y ddwy gêm olaf yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C ar Fehefin 22 o Stadiwm Liberty yn Abertawe.

S4C a’r BBC fydd yn gweithio ar y cyd ar y bencampwriaeth, sy’n dechrau ar Fehefin 6 , cyhoeddodd yr IRB ac Undeb Rygbi Cymru ddoe (Mercher, Mai 7).

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon, S4C, “Mae rygbi yn allweddol i ddarllediadau S4C ac rydym wedi cyffroi wrth gynnig rhagolwg o rai o ser dyfodol rygbi Cymru mewn Pencampwriaeth enfawr i Gymru gyfan. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiad cyffrous iawn.

“Bydd y bencampwriaeth hefyd ar gael ar wasanaethau eraill S4C gan gynnwys darllediadau byw o’r gemau ar wefan S4C ac i rheini sy’n colli’r gêm yn fyw, bydd yna gyfle i wylwyr wylio am hyd at 35 diwrnod wedi’r gêm byw a’r rhaglenni uchafbwyntiau.”

Meddai David Pickering, Cadeirydd URC, “Erbyn hyn mae teledu yn arf bwysig i hyrwyddo rygbi ar draws y byd ac mae’r cyhoeddiad yma yn cynnig gwerth i’r bencampwriaeth. Mae gan y byd rygbi parch enfawr tuag at S4C a’r BBC am safon uchel o ddarllediadau rygbi.”

Daw’r cyhoeddiad yng nghanol gyfnod cyffrous i ddarpariaeth chwaraeon S4C, gyda’r sianel yn ennill hawliau daearol egscliwsif i ddangos uchafbwyntiau garfan Cymru yn Ne Affrica ar Fehefin 7 a 14.

Ychwanegodd Geraint Rowlands: “Bydd y bencampwriaeth yma, yn ogystal ag uchafbwyntiau'r ddau brawf yn Ne Affrica yn cynnig rygbi rhyngwladol o safon uchel iawn drwy gydol Mehefin ar S4C.”

Mae S4C ar gael yng Nghymru ar sianel Sky Digidol 104 a sianel Freeview 4. I wylwyr tu allan i Gymru, mae S4C ar gael ar sianel 134 ar Sky Digidol neu ar y wefan s4c.co.uk/chwaraeon.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r linc isod i ddarllen datganiad y wasg gan Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) ac Undeb Rygbi Cymru.

http://www.wru.co.uk/1391_17938.php

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?