S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cystadleuaeth Côr Cymru S4C yn taro’r nodyn

20 Mai 2008

Bydd cystadleuaeth gorawl S4C, Côr Cymru 2009, sydd â phrif wobr o £7,000, yn cael ei lansio’n swyddogol ar Wedi 7 nos Fawrth (20 Mai, 7.00pm).

Bydd corau o Gymru, corau gyda chysylltiad agos i Gymru, a chorau sy’n perfformio’n rheolaidd yn y Gymraeg yn cael y cyfle i gystadlu yn y digwyddiad, a gynhelir bob yn ail flwyddyn. Y dyddiad cau i ymgeiswyr yw 6 Hydref 2008.

Caiff y gystadleuaeth ei rhannu i bum categori: Corau Plant o dan 16 mlwydd oed; Corau Ieuenctid o dan 25 mlwydd oed; Corau Cymysg; Corau Merched a Chorau Meibion.

Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn beirniadu’r gystadleuaeth, gyda’r rhagbrofion yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2008. Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal ym mis Chwefror 2009 a bydd y rownd derfynol yn digwydd ar ddydd Sul, 5 Ebrill, yn Neuadd Fawreddog, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Trefnir y gystadleuaeth gan gwmni cynhyrchu Rondo Media ar ran S4C a bydd y rowndiau cynderfynol a therfynol yn cael eu recordio gan Rondo a’u darlledu ar S4C ac ar S4C Digidol.

Meddai Robert Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Gall Gymru ymfalchio yn y ffaith fod ganddi draddodiad hir o ganu corawl gwych, a nod S4C yw codi’r safon ymhellach.

“Mae S4C yn cymryd y celfyddydau o ddifrif, ac mae menter Côr Cymru yn dangos ein hymrwymiad i ddod â’r gorau o ganu corawl i’r gwylwyr adref.”

Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth yn cynnwys Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn (2007), Serendipity o Gaerdydd (2005) ac Ysgol Gerdd Ceredigion (2003).

Yn ogystal â chystadleuaeth Côr Cymru, bydd gwobr arbennig i arweinydd gorau’r gystadleuaeth. Cipiodd Mari Pritchard, arweinydd Côr Ieuenctid Môn, y wobr yn 2007.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?