S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw – y cymeriad cofiadwy

27 Mai 2008

 Bydd pennod newydd ym maes darlledu plant yn dechrau heddiw (Mawrth, 27 Mai), gyda lansiad swyddogol Cyw, gwasanaeth Cymraeg arloesol S4C ar gyfer y gwylwyr iau.

Y cymeriad animeiddiedig bywiog Cyw fydd yn croesawu plant bach Cymru i’r gwasanaeth newydd gydol y flwyddyn sy’n dechrau darlledu ar 23 Mehefin ar S4C Digidol.

Bydd y gwasanaeth yn cynyddu arlwy feithrin S4C yn sylweddol trwy ddarparu chwe awr a hanner o raglenni’r dydd, Llun - Gwener, 7.00am-1.30pm.

Bydd gwefan ddwyieithog gyffrous – s4c.co.uk/cyw – yn cyd-fynd â’r gwasanaeth. Bydd y wefan yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni. Bydd llawer o’r rhaglenni ar gael i’w gwylio ar-lein a darperir is-deitlau Saesneg ar y rhan fwyaf o’r sioeau.

Datgelir manylion llawn am wasanaeth Cyw mewn lansiad arbennig ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy mewn digwyddiad a fydd yn cynnwys gorymdaith liwgar yng nghwmni rhai o gymeriadau a chyflwynwyr plant mwyaf poblogaidd S4C.

Cyw yw’r cam cyntaf yn strategaeth S4C i gyflwyno gwasanaeth Cymraeg ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc.

“Lansio Cyw yw un o’r datblygiadau pwysicaf erioed yn hanes S4C ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i blant Cymru a’u teuluoedd,” meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C.

“Rwy’n hyderus y bydd y cynnydd sylweddol hwn yn yr arlwy yn atgyfnerthu’r enw da sydd gan S4C a’r cynhyrchwyr annibynnol ym maes rhaglenni plant - yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.”

Bydd Cyw, gyda chymorth ei ffrindiau, Bolgi’r ci, Jangl y jiráff, Llew, Plwmp yr eliffant a Deryn yn cyflwyno’r rhaglenni ar y gwasanaeth newydd. Bydd y cyflwynwyr plant, Rachael Solomon a Gareth Delve, hefyd yn chwarae rôl flaenllaw.

Rhaglenni gwreiddiol a wnaed yng Nghymru gan gwmnïau cynhyrchu Cymreig ac mewn partneriaeth â darlledwyr rhyngwladol sydd wrth galon y gwasanaeth uchelgeisiol hwn.

Ymhlith y rhaglenni hynny fydd cyfres Sali Mali a’i chyfeillion, Pentre Bach, y sioe ddawns a chân Triongl, y cyfresi animeiddiedig Holi Hana, Sali Mali a Sam Tân, a’r gyfres ffitrwydd newydd, Heini.

Mae S4C Digidol ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru ar Sky 104, Freesat 104, Freeview 4 a Virgin TV 194, a'r tu allan i Gymru ar Sky 134 a Freesat 120.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?