S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwefan Dywydd Newydd Cynhwysfawr yn fyw ar S4C

08 Mai 2008

 Mae gwasanaeth tywydd ar-lein cynhwysfawr newydd S4C wedi cael ei lansio ar wefan y sianel heddiw (Iau, 8 Mai 2008).

Y wefan ddwyieithog newydd - www.s4c.co.uk/tywydd neu www.s4c.co.uk/weather - yw’r cam diweddaraf yn ail-lansiad gwasanaeth Tywydd - Weather S4C.

Cafodd gwefan tywydd ar-sgrin S4C ei ail-lansio ym mis Tachwedd y llynedd i gyd-fynd â dathliadau pen-blwydd y sianel yn 25 mlwydd oed.

Mae gwasanaeth tywydd S4C, a gynhyrchir ar gyfer S4C gan ITV Cymru, ac a gyflwynir gan dîm tywydd o dri, Chris Jones, Mari Grug ac Erin Roberts, yn darlledu hyd at chwe bwletin y dydd ar S4C ac ar y gwasanaeth digidol, S4C Digidol.

Caiff y wefan newydd - sy’n defnyddio’r dechnoleg rhagolwg tywydd a lloeren ddiweddaraf - ei diweddaru tair gwaith y diwrnod, ac yn amlach fyth mewn tywydd eithafol.

Mae’r safle’n cynnwys bwletinau diweddaraf y tywydd ar-sgrin, map tywydd manwl o Gymru, lluniau lloeren a ddiweddarir bob awr, a manylion am y cyflwynwyr. Mae modd hefyd cael rhagolygon 5 diwrnod lleol ar gyfer 25 ardal yng Nghymru, o Dreffynnon yng ngogledd ddwyrain Cymru i Hwlffordd yn y de orllewin, ac o Gaergybi yn y gogledd orllewin i Drefynwy yn y de ddwyrain.

Nodwedd ddefnyddiol arall ar y wefan fydd y gallu i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y tywydd mewn lleoliadau penodol yng Nghymru, lle mae sioeau, gwyliau, cystadlaethau chwaraeon neu gyngherddau awyr agored yn cael eu cynnal. Mae’r gwasanaeth ar-lein hefyd yn darparu gwybodaeth ar y tywydd mewn lleoliadau yng ngweddill gwledydd Prydain ac yn Ewrop pan yn berthnasol i gefnogwyr chwaraeon Cymru, neu i’r rhai sy’n mynd i ddigwyddiadau tramor.

Dywedodd Huw Rossiter, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Mae’r gwasanaeth ar-lein tywydd newydd yn ychwanegu gwerth at wefan S4C.”

Ychwanegodd Dilys Morris-Jones, cynhyrchydd gwasanaeth tywydd S4C yn ITV Cymru, “Mae’r gwasanaeth tywydd ar-lein yn ddatblygiad allweddol yn y gwasanaeth a gaiff ei gynnig i wylwyr S4C. Mae’n rhan o’n strategaeth i wneud y tywydd yn gyraeddadwy i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mae ‘na gynlluniau datblygu cyffrous ar y gweill ar gyfer y dyfodol hefyd."

Gorffen

Nodiadau i’r golygydd

Enillodd ITV Cymru gytundeb cynhyrchu gwasanaeth tywydd S4C mewn proses dendro agored yn 2007.

Cafodd gwefan S4C ei hail-lansio yn nechrau 2007 fel rhan o lansiad hunaniaeth brand newydd S4C.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?