S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn sicrhau hawliau Cwpan Ryder 2010

07 Gorffennaf 2008

 Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw (Llun, 7 Gorffennaf) ei bod wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau rhai o gystadlaethau golff pwysica’r byd, gan gynnwys Cwpan Ryder 2010, Cylchdaith Golff Ewrop a Chylchdaith Golff PGA yr Unol Daleithiau.

Bydd y Sianel yn darlledu pecyn sylweddol o raglenni golff dros y tair blynedd nesaf, gan ddechrau ym mis Awst a Medi eleni gyda chyfres o raglenni uchafbwyntiau 30-munud yn dilyn y Gylchdaith Golff Ewrop a Chylchdaith Golff PGA yr Unol Daleithiau.

Mae’r cytundeb teledu tair blynedd yn cynnwys rhaglenni uchafbwyntiau o Gwpan Ryder Ewrop 2010 a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf erioed yn y Celtic Manor, Casnewydd ymhen dwy flynedd.

Yn ogystal â darparu uchafbwyntiau nosweithiol o Gwpan Ryder 2010, bydd S4C yn darlledu rhaglen awr arbennig y noson cyn i’r gystadleuaeth ddechrau a fydd yn cynnwys uchafbwyntiau o Seremoni Agoriadol y Cwpan Ryder.

Bydd S4C yn awr yn gwahodd tendrau gan gwmnïau cynhyrchu i ddarparu pecyn o raglenni a fydd hefyd yn cynnwys rhaglenni uchafbwyntiau o Gylchdaith Golff Ewrop a Chylchdaith Golff PGA yr Unol Daleithiau yn haf 2009 a 2010 a rhaglen ddiwedd tymor yn Nhachwedd 2008, 2009 a 2010, yn bwrw golwg yn ôl ar y tymhorau golff.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C Rhian Gibson: "Rydym yn falch o gyhoeddi’r pecyn cyffrous hwn o'r cylchdeithiau golff mawr a Chwpan Ryder 2010. Fel Partner Swyddogol Cwpan Ryder Ewrop 2010, mae S4C wedi'i hymroi i gefnogi digwyddiadau mawr o bwys yng Nghymru."

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?