S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Creu hanes yn y byd darlledu

23 Mehefin 2008

 Mae actores o Ogledd Cymru wedi creu hanes yn y byd darlledu'r bore yma (Llun, 23 Mehefin) wrth ynganu’r geiriau cyntaf ar y gwasanaeth newydd arloesol i blant ar S4C.

"Croeso i blant Cymru - ac i bawb ym mhob man - i Cyw," oedd geiriau'r actores Leusa Mererid wrth agor cyfnod newydd ym maes darlledu Cymraeg a chroesawu'r genedl i wasanaeth meithrin Cyw, a ddarlledir Llun-Gwener, 7.00am-1.30pm ar S4C Digidol.

Bydd Leusa, sy'n fam i ddau o blant, yn lleisio’r dolenni rhwng y rhaglenni ar y gwasanaeth Cyw, a fydd yn cynnwys gweithgareddau animeiddiedig Cyw a’i ffrindiau, Bolgi, Llew, Plwmp a Deryn.

Bydd Leusa hefyd yn cyflwyno rhai o eitemau byw'r gwasanaeth, a fydd yn cynnwys 'canu ac arwyddo', dull cyfathrebu sydd wedi ei ddatblygu gan arbenigwyr iaith a lleferydd ar gyfer babanod a phlant bach.

Meddai Leusa, 36, o'r Felinheli: "Mae’n gyffrous dros ben i gael bod yn rhan o'r gwasanaeth newydd hwn, ac yn fraint wirioneddol i gael y cyfle i adrodd y geiriau agoriadol ar ran Cyw a'i ffrindiau. Fy nhasg i yw gwahodd plant Cymru i fyd hudol Cyw, ac rwy'n siŵr y daw'r cymeriadau annwyl yma yn boblogaidd tu hwnt ymysg gwylwyr ieuengaf S4C."

Ymhlith y rhaglenni poblogaidd a fydd i'w gweld ar y gwasanaeth newydd bydd y gyfres fywiog Pentre Bach, rhaglen canu a dawnsio Triongl, animeiddiadau Holi Hana, Sali Mali a Sam Tân, a chyfresi newydd megis cyfres egnïol Heini. Bydd y cyflwynwyr Rachael Solomon a Gareth Delve yn chwarae rhan allweddol yn y gwasanaeth newydd.

Bydd gwefan ddwyieithog gyffrous - s4c.co.uk/cyw - yn llawn gemau a gweithgareddau, ynghyd â gwybodaeth i rieni yn mynd law yn llaw â'r gwasanaeth newydd. Bydd nifer o'r rhaglenni i'w gweld ar-lein, tra bo is-deitlau Saesneg ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhaglenni.

Cyw yw'r cam cyntaf yn strategaeth S4C i gyflwyno gwasanaeth Cymraeg ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae Leusa yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C ac wedi actio mewn dwy o ddramâu mwyaf poblogaidd y Sianel, Amdani a Tipyn o Stâd.

Astudiodd Drama ym Mhrifysgol Manceinion, cyn treulio blwyddyn ym Mharis yn dilyn cwrs perfformio arbennig a oedd yn cynnwys gwneud masgiau a meimio. Bydd Leusa hefyd yn cychwyn y gwaith o gyfarwyddo cynhyrchiad newydd Bara Caws o Lyfr Bach y Plant yn fuan, a bydd yn cynnal sesiynau 'canu ac arwyddo' yng nghanolfan gelfyddydol Galeri Caernarfon ym mis Medi.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?