S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i wylwyr Caerfyrddin leisio barn am S4C

11 Medi 2009

Bydd cyfle i wylwyr S4C yn ardal Caerfyrddin leisio’u barn am wasanaethau’r Sianel mewn Noson Gwylwyr arbennig a gynhelir yng Nghanolfan Halliwell, Coleg Prifysgol y Drindod, ddydd Mawrth, 15 Medi am 7.00pm.

Cadeirydd S4C, John Walter Jones, fydd yn llywio’r digwyddiad. Bydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu’r Sianel, Garffild Lloyd Lewis a’r Pennaeth Materion Corfforaethol, Tim Hartley, hefyd yn bresennol, a bydd digon o gyfleoedd i drafod y newid i ddigidol sydd ar y gweill yn yr ardal.

Cynhelir y digwyddiad wrth i S4C lansio ei hamserlen newydd ar gyfer yr hydref, sy’n cynnwys llu o ffefrynnau megis y gyfres canu emynau, Dechrau Canu Dechrau Canmol, Ffermio a’r sioe ffasiwn a dillad Cwpwrdd Dillad.

Bydd sawl cyfres newydd hefyd. Bydd Dai Jones yn chwilio am ffermwr gorau Cymru yn Fferm Ffactor; darlledir drama newydd, Blodau ym mis Tachwedd; bydd portread o’r hanesydd Hywel Teifi Edwards a rhaglen ddogfen wedi’i chyflwyno gan Ffion Hague, Dwy Wraig Lloyd George.

Bydd S4C hefyd yn cynnig darllediadau helaeth o ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol a gwahanol chwaraeon.

Meddai Cadeirydd S4C, John Walter Jones: “Rydym yn estyn croeso cynnes iawn i bobl i ddod i’r noson i leisio’u barn am S4C a gofyn unrhyw gwestiynau am y newid i ddigidol.

“Gyda chymaint o newidiadau mawr ar droed, ynghyd ag amserlen gyffrous S4C ar gyfer yr hydref, bydd digon o bynciau trafod difyr ac rydym yn edrych ymlaen at gael cwrdd â’n gwylwyr wyneb-yn-wyneb.”

Darperir lluniaeth ysgafn yn y digwyddiad, ynghyd â gwasanaeth cyfieithu. Am fwy o fanylion, ffoniwch 01352 754212.

Poster Noson Gwylwyr

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?