S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Catrin Angharad Roberts yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009

12 Hydref 2009

  Catrin Angharad Roberts sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2009, a ddarlledwyd ar S4C nos Sul 11 Hydref. Fel brodor o Lanbedrgoch, Ynys Môn, mae Catrin yn aelod blaenllaw o Aelwyd yr ynys, gan gystadlu'n unigol ac mewn corau a phartion. Yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau, cipiodd Wobr Goffa Lady Herbert Lewis am yr Unawd Alaw Werin dros 21 oed.

Yn ogystal â'i dawn berfformio, mae Catrin yn cyfansoddi a threfnu alawon gwerin. Yn dilyn ei llwyddiant yn arwain Côr Meibion Aelwyd yr Ynys yn Eisteddfod yr Urdd 2009, mae bellach yn arweinydd a chyd-sylfaenydd Côr Meibion newydd Ynys Môn.

Fel rhan o'i rhaglen fuddugol, perfformiodd Catrin amrywiaeth o alawon Cymreig traddodiadol a cherddoraeth gyfoes o fyd y sioeau cerdd.

Gwylio Ysgoloriaeth Bryn Terfel ar Clic

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?