S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cei Bach yn dod yn fyw i blant ysgol

02 Hydref 2009

 Bydd rhai o gymeriadau cyfres newydd i blant meithrin, Cei Bach, sy’n rhan o arlwy Cyw ar S4C, yn ymweld ag ysgolion cynradd yng ngogledd orllewin Cymru wythnos nesaf.

Bydd Siwan Siw (Sioned Wyn), Brangwyn (Darren Stokes), Betsan Brysur (Leusa Mererid) a Chapten Cled (Eilir Jones) yn helpu hyrwyddo Cei Bach, sy’n cael ei ffilmio ym Morth-y-gest, ger Porthmadog, ac sy’n cael ei darlledu bob brynhawn Gwener am 1.15pm.

Bydd y daith yn ymweld â Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Y Bala, Tywyn, Harlech a Dolgellau dros gyfnod o bum diwrnod.

Mae Cei Bach yn dilyn anturiaethau Prys Plismon a'i ffrindiau. Mae Prys a’i wraig Mari yn cadw gwesty bach gwely a brecwast Glan y Don wrth ymyl y cei ac mae’r gyfres yn plethu at ei gilydd storïau am fywyd plismon, gweithgareddau gwesty bach a bywyd fel rhan o gymuned.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Rwy’n siŵr y bydd Cei Bach yn cydio yn nychymyg y gwylwyr o’r funud gyntaf ac mae’n gyfle arbennig iawn i blant ysgol yr ardal ddod wyneb-yn-wyneb â’r cymeriadau lliwgar. Fel rhan o ddatblygiad gwasanaeth Cyw, mae’n braf gallu cyflwyno cyfresi a chymeriadau newydd, ochr yn ochr â ffefrynnau fel Sali Mali a Sam Tân, sydd wedi hen ennill eu plwyf.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?