S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen ddogfen am ddringwr yn ennill gwobr ryngwladol

12 Tachwedd 2009

Mae rhaglen ddogfen bwerus gan S4C sy’n dilyn y dringwr ifanc Ioan Doyle wedi llwyddo i ennill gwobr fawr arall – y tro hwn yng Ngŵyl Ffilmiau Mynydda Tegernsee yn Yr Almaen.

Fe lwyddodd Dringo i’r Eitha’, a ddarlledwyd yn gyntaf y llynedd fel rhan o’r gyfres ddogfen ffeithiol Wynebau Newydd, i ennill y brif wobr yng nghategori ‘Profiad Mynydd’.

Mae’r rhaglen eisoes wedi ennill nifer o wobrau anrhydeddus yn cynnwys Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2009; Gwobr Arbennig y Beirniaid a Gwobr Teledu Cenedlaethol Slofenia, ill dwy yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Mynydda, a gynhaliwyd yn Domazale, Slofenia; a Gwobr ‘Camera Alpine Gold’ yng Ngŵyl ffilm Graz yn Awstria.

Cyfarwyddwyd y ffilm gan Alun Hughes, dyn camera a dringwr profiadol o Lanberis, ar gyfer cwmni cynhyrchu Cwmni Da, ac mae’n dilyn Ioan Doyle wrth iddo roi cynnig ar rai o ddringfeydd anodda’r byd yn ystod haf 2007.

Mae Dringo i’r Eitha’ yn dilyn Ioan o Fethesda, Gwynedd, oedd yn 16 oed ar y pryd, wrth iddo wynebu cyfres o ddringfeydd anodd yn Eryri, derbyn her ei ‘8a sports climb’ cyntaf ar

Ynys Kalymnos, Gwlad Groeg, sydd ond wedi ei feistroli gan grŵp bach o ddringwyr. ac yna, ceisio concro muriau mawr Dyffryn Yosemite, Califfornia, UDA.

Meddai’r cynhyrchydd Ifor ap Glyn o Gwmni Da, “Mae profiad Alun fel dringwr medrus wedi galluogi iddo ffilmio golygfeydd trawiadol sydd y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl. Mae hefyd yn gynhyrchydd rhaglenni ffeithiol sylwgar a sensitif iawn a’r cyfuniad yma o sgiliau sydd yn gyfrifol am lwyddiant ysgubol Dringo i’r Eitha’.”

Mae’r rhaglen yn ogystal yn bortread cofiadwy o fam Ioan, Catrin wrth iddi geisio ymdopi â’i ofnau am ddiogelwch ei mab wrth i’w uchelgais ei yrru tuag at ddringfeydd anoddach. Mae’r rhaglen hefyd yn ein cyflwyno i Malcolm ‘Mills’ Davies, partner dringo Ioan, sydd yn rhyfedd ddigon ag ofn uchder.

Dywedodd y beirniaid yng Ngŵyl Tegernsee, “Mae Dringo i’r Eitha’ yn wahanol i ffilmiau dringo eraill am ei bod yn canolbwyntio ar fywyd y tu hwnt i’r orchest ei hun, gan ymchwilio i’r hyn sy’n ysgogi dringwyr ifanc. O ganlyniad, mae’r ffilm yn cynnig portread gafaelgar a phersonol iawn.”

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “'Rydym ni’n falch iawn o lwyddiant y ffilm ddogfen Dringo i’r Eitha’ a’r wobr ddiweddaraf hon yn yr ŵyl ryngwladol yn Tegernsee. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu’r safon a osodir gan S4C ym maes cynhyrchu rhaglenni ffeithiol, gan gyfuno stori bersonol bwerus gyda ffilmio trawiadol i greu rhaglen fythgofiadwy. Llongyfarchiadau i bawb sydd ynghlwm â’r cynhyrchiad.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?